Newyddion S4C

Joe Biden yn cyflwyno cynllun i ddod â'r ymladd yn Gaza i ben

01/06/2024
GAZA UNRWA

Mae arlywydd yr UDA Joe Biden wedi erfyn ar Hamas i dderbyn cynnig newydd gan Israel i ddod â'r gwrthdaro i ben yn Gaza, gan ddweud ei fod hi'n "amser i'r rhyfel orffen".

Byddai'r cynllun tri cham yn dechrau gyda chadoediad chwe wythnos a fyddai'n gweld Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn symud allan o ardaloedd poblog yn Gaza.

Fe fyddai yna hefyd gynnydd mewn cymorth dyngarol yn ogystal â chyfnewid rhai gwystlon am garcharorion Palesteinaidd. 

Byddai'r cytundeb yn y pen draw yn arwain at "roi'r gorau i'r elyniaeth" a chynllun i ailadeiladu Gaza yn ôl Mr Biden.

Mae Hamas wedi dweud fod y cynllun yn "bositif".

Yn ei araith ddydd Gwener, fe wnaeth Mr Biden gydnabod y byddai'r trafodaethau rhwng cam un a cham dau yn anodd. 

Ddyddiau yn unig yn ôl, dywedodd prif weinidog Israel Benjamin Netanyahu ei fod yn gwrthwynebu dod â'r rhyfel i ben fel rhan o gytundeb cadoediad.

Mae ysgrifennydd gwladol UDA Antony Blinken wedi cysylltu gyda gwleidyddion yn yr Iorddonen, Sawdi Arabia a Thwrci er mwyn ceisio sicrhau cefnogaeth ehangach ar gyfer y cynnig. 

Mae mwy na 46,000 o bobl wedi cael eu lladd ar draws Gaza ers dechrau'r gwrthdaro, yn ôl y weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.

Dechreuodd y rhyfel ym mis Hydref y llynedd wedi i Hamas ymosod ar Israel, gan ladd o gwmpas 1,200 o bobl a chymryd 252 yn ôl i Gaza yn wystlon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.