Cyhuddo dyn 20 oed o lofruddio menyw wedi iddi gael ei thrywanu ar draeth
Mae dyn 20 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw a fu farw wedi iddi gael ei thrywanu ar draeth yn Bournemouth ddydd Gwener ddiwethaf.
Cafodd Nasen Saadi ei gyhuddo o lofruddiaeth ddydd Gwener yn dilyn marwolaeth Amie Gray o Poole, meddai Heddlu Dorset.
Mewn datganiad dywedodd y llu fod ymholiadau wedi cael eu cynnal dan arweiniad tîm ymchwilio arbenigol, ac o ganlyniad fe gafodd Nasen Saadi, o ardal Croydon yn ne Llundain, ei arestio nos Fercher.
“Mae bellach wedi cael ei gyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Poole ddydd Sadwrn, 1 Mehefin.”
Cafodd dynes arall o Poole ei thrywanu adeg yr ymosodiad ar draeth Durley Chine am tua 23:45 ar 24 Mai.
Llun: Facebook