Rhagor o wasanaethau trenau i ardaloedd yn y de o ddydd Sul
Rhagor o wasanaethau trenau i ardaloedd yn y de o ddydd Sul
Fe fydd mwy o wasanaethau trenau ar gael yn y de o ddydd Sul ymlaen, fel rhan o gynllun gwerth £1 biliwn.
Fe ddaw fel rhan o gynllun Metro De Cymru, ac mae Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cyhoeddi eu hamserlen newydd ar gyfer gwasanaethau trên ar hyd a lled y de.
Fe fydd y newidiadau yn cael eu gwneud yn ardaloedd “llinellau craidd y Cymoedd yn bennaf,” meddai Gethin Wyn Jones o Trafnidiaeth Cymru.
Ac mae hynny wedi cael ei ddisgrifio fel “y newid mwyaf” i amserlenni’r ardal ers 30 mlynedd, yn ôl y cwmni.
“Fydd o’n galluogi ni i weithredu mwy o drenau a mwy o wasanaethau yn ardaloedd llinellau craidd y Cymoedd yn bennaf,” esboniodd Mr Wyn Jones.
“Felly ‘dyn ni’n gofyn i bobl wirio eu taith cyn teithio jyst i sicrhau os ydy’r gwasanaeth wedi newid bod nhw’n gwybod lle i fynd.”
Beth yw’r newidiadau?
Ymhlith y newidiadau fydd yn dod i rym ddydd Sul, fe fydd cynnydd yn nifer y trenau sydd yn teithio rhwng Caerdydd a Phontypridd – o chwech i wyth yr awr.
Fe fydd cynnydd hefyd o bedwar i chwe thrên yr awr rhwng Caerdydd a Chaerffili, a dau drên yn mynd bob awr rhwng Caerdydd a Rhymni - o'i gymharu ag un ar hyn o bryd.
Yn ogystal â hynny fe fydd na fwy o drenau gyda'r hwyr i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful.
Mae’r newidiadau yn golygu y bydd mwy bydd o wasanaethau trên rhwng Caerdydd a Phontypridd adeg yr Eisteddfod Genedlaethol, pan fydd y brifwyl yn cael ei chynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad fis Awst.
Dywedodd Mr Wyn Jones: “Fydd gynnon ni trenau newydd sbon yn rhedeg yn uniongyrchol o Gaerdydd a bydd gynnon ni gwasanaethau hwyr nos ar gyfer Maes B a ballu hefyd.”
Dywedodd hefyd y bydd hi’n “braf cael gwybod” beth mae pobl yn ei feddwl am drenau “newydd sbon” y de adeg y brifwyl.