Newyddion S4C

Kayleigh Barton yn rhwydo i sicrhau gêm gyfartal i Gymru yn erbyn Wcráin

31/05/2024
Kayleigh Barton - Cymru

Mae Cymru yn parhau ar frig eu grŵp yn rownd ragbrofol UEFA Euro 2025 ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Wcráin nos Wener.

Wedi dechreuad gwefreiddiol i’r cyfnod dan y rheolwr newydd Rhian Wilkinson, gyda dwy fuddugoliaeth swmpus fis Ebrill, roedd y dorf gartref ym Mharc y Scarlets yn gobeithio gweld y rhediad yn parhau.

Ond roedd y rhwystredigaeth yn amlwg ar wynebau’r chwaraewyr ar ôl y chwiban olaf, wrth iddyn nhw lwyddo i hawlio pwynt yn unig yn Llanelli.

Doedd Cymru heb ildio gôl yn eu pedwar gêm ddiwethaf, ond daeth y rhediad hynny i ben wedi tri munud nos Wener.

Ar ôl camgymeriad gan Rhiannon Roberts, fe wnaeth Veronika Andrukhiv fanteisio i rwydo mewn i gôl wag a rhoi’r ymwelwyr ar y blaen.

Fe wnaeth y Cymry ymateb yn gryf drwy gymryd rheolaeth o’r meddiant a chreu sawl cyfle.

Cafodd Jess Fishlock tri chyfle da i unioni’r sgôr, ond ni lwyddodd i ganfod y rhwyd, wrth i Gymru orffen yr hanner ar eu hôl hi.

Roedd patrwm tebyg yn chwarae’r ail hanner hefyd, wrth i Wcráin amddiffyn yn ddwfn o dan bwysau gan y tîm cartref.

Ac fe dalodd y pwysau ar ei ganfed wedi 63 munud, ar ôl i’r dyfarnwr roi cic gosb i Gymru wedi i Olha Basanska lawio yn y cwrt cosbi.

Kayleigh Barton gamodd lan i gymryd y gic a chyfeirio’r bêl i gongl uchaf y rhwyd.

Parhau gwnaeth y pwysau gan Gymru yng nghyfnod hwyr y gêm, ond llwyddodd Wcráin i ddal ymlaen i hawlio pwynt.

Bydd y ddau dîm yn cwrdd unwaith eto nos Fawrth nesaf yn Grodzisk Wielkopolski yng Ngwlad Pwyl.

Llun: Kayleigh Barton yn dathlu ar ôl unioni'r sgôr (Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.