Newyddion S4C

Yr Urdd yn cynnal gwylnos ar y maes gan alw am gadoediad yn Gaza

31/05/2024

Yr Urdd yn cynnal gwylnos ar y maes gan alw am gadoediad yn Gaza

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cynnal gwylnos ar faes yr Eisteddfod ym Maldwyn nos Wener i wrthdystio yn erbyn ymosodiadau Israel ar ddinas Rafah yn Gaza. 

Ddydd Mercher, roedd yr Urdd wedi apelio at wleidyddion ac arweinwyr i bwyso am gadoediad yn y rhyfel. 

Wrth siarad ar lwyfan y Babell Wyn, dywedodd Iestyn Tyne Meistr y Ddefod: “Dydy terfynu bywydau miloedd ar filoedd o blant ddim yn ymateb rhesymol i unrhyw weithred dan unrhyw amgylchiadau. 

Dywedodd fod yr Urdd, yn “galw eto - galw’n gliriach, galw’n uwch am gadoediad llwyr yn Gaza.”

Roedd y Prif Weithredwr, Siân Lewis hefyd wedi dweud ar faes Eisteddfod yr Urdd ei bod yn “anodd anwybyddu erchylltra digwyddiadau Rafah yr wythnos hon”.

Ddydd Gwener, dywedodd lluoedd arfog Israel eu bod wedi atal ymosodiadau yng ngogledd Gaza yn dilyn ymgyrch tair wythnos o hyd yn ardal Jabalia.

Roedd ymosodiadau o’r awyr wedi lladd 45 o bobl mewn gwersyll yn ninas Rafah ddydd Sul diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.