Pryder am gynlluniau i adeiladu cannoedd o dai ger Caerdydd
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi mynegi eu pryderon am gynlluniau i adeiladu cannoedd o dai ger Caerdydd.
Fe gafodd y cais cynllunio ar gyfer 650 o dai ar dir i'r de o bentref Creigiau ei wneud yn 2019 gan Ystâd Castell y Mynach.
Fe wnaeth nifer o drigolion fynegi eu gwrthwynebiad dros y blynyddoedd, gan gynnwys un cyn-aelod o'r Senedd a ddywedodd y byddai'r datblygiad yn cael "oblygiadau difrifol" yn sgil yr effaith ar gymeriad yr ardal a thraffig.
Cyngor Bro Morgannwg ydy'r diweddaraf i fynegi eu gwrthwynebiad, gan ddweud nad ydynt yn cynnig fawr o ystyriaeth ar hyn o bryd i'r effaith posib ar isadeiledd.
Mae llythyr gan bennaeth datblygu cynaliadwyedd y cyngor, Ian Robinson, yn dweud "nad ydy'r dogfennau cefnogol yn ystyried effaith y cais ar Gyffordd 34 o'r M4 a'r cysylltiadau i fewn i Fro Morgannwg."
Mewn datganiad cynllunio, dywedodd yr ymgynghorwyr DPP Planning eu bod yn cydnabod y byddai'r datblygiad yn gallu arwain at draffig ychwanegol.
Ond ychwanegodd DPP Planning mai dim ond effaith bach y byddai hyn yn ei gael.
Mae'r ddogfen hefyd yn nodi y byddai'r datblygiad yn cynnwys llwybrau cerdded a beicio.
Y gobaith yn ôl y datblygwyr ydi y byddai'r cais yn helpu Caerdydd i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y ddinas.
Mae ffigyrau diweddaraf gan Gyngor Caerdydd yn dangos fod yna 1,028 o bobl yn byw naill ai mewn llety dros dro neu lety brys, 122 o deuluoedd yn byw mewn gwestai a 595 o deuluoedd yn byw mewn darpariaeth dros dro.
O'r 650 o dai yn y cais cynlluniau yng Nghreigiau, mae 30% ohonyn nhw yn dai fforddiadwy.
Y disgwyl yw y gallai'r cynlluniau gael eu rhoi o flaen pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf, ond yn sgil yr etholiad cyffredinol, mae disgwyl i'r penderfyniad gael ei wneud ym mis Awst neu Fedi.