Gweithwyr dur Tata'n y de i weithredu'n ddiwydiannol
Fe fydd gweithwyr cwmni dur Tata yn gwahardd goramser fel rhan o weithredu diwydiannol mewn protest yn erbyn colli swyddi.
Dywedodd undeb Unite y bydd tua 1,500 o’i aelodau sydd wedi’u lleoli ym Mhort Talbot a Llanwern yn yn gweithredu o 18 Mehefin.
Mae undebau'n gwrthwynebu cynlluniau'r cwmni i gau ffwrneisi chwyth a newid i ddull cynhyrchu mwy gwyrdd sydd angen llai o weithwyr.
Rhybuddiodd Unite y bydd streic yn cael ei gynnal os nad yw’r cwmni’n gwneud tro pedol ar ei gynlluniau.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Mae Tata wedi gwneud camgymeriad.
“Mae eu gweithwyr yn gwybod bod dyfodol gwell yn bosibl ac fe fyddan nhw’n gweithredu’n ddiwydiannol i frwydro drosto, gydag Unite yn defnyddio pob arf sydd ar gael i wneud i’r cwmni newid trywydd.
“Mae’r cwmni hynod gyfoethog hwn yn gwybod am gapasiti dur y DU a gellir cadw swyddi wrth i’r newid i ddur gwyrdd gael ei wneud.
“Byddai cytundeb trychinebus Tata gyda’r Llywodraeth bresennol ond yn gweld ei fusnesau tramor eraill yn manteisio ar y ffyniant sydd i ddod mewn dur gwyrdd ar draul De Cymru.”
Mae undebau eraill yn ymgyrchu i achub swyddi ym Mhort Talbot ond heb gyhoeddi unrhyw weithredu diwydiannol.
Dywed Tata nad oes ganddo ddewis ond newid y ffordd mae dur yn cael ei gynhyrchu, gan ychwanegu ei fod wedi gwneud cynigion diswyddo hael i weithwyr sydd yn cael eu heffeithio.