Galw tîm gwaredu bomiau i stryd yng Nghaerdydd
Mae tîm gwaredu bomiau wedi eu galw i stryd yng Nghaerdydd ar ôl i "ordnans" gael ei ddarganfod yno.
Cafodd y ddyfais ffrwydrol ei darganfod ar y lan oddi ar Rover Way ger Y Sblot.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod cordon yn ei le, a rhybuddiodd y gallai pobl sy’n byw yn yr ardal glywed “ffrwydradau” nos Iau tra bod arbenigwyr yn gweithio yn y lleoliad.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Mae swyddogion wedi rhoi cordon yn ei le ar ôl darganfod ordnans ar y lan oddi ar Rover Way yng Nghaerdydd.
"Mae arbenigwyr gwaredu bomiau arbenigol wedi cael eu hysbysu a byddant yn bresennol i sicrhau bod yr ordnans yn ddiogel. Efallai y bydd trigolion yn clywed ffrwydradau heno ac nid oes unrhyw achos iddynt ddychryn.
"Er eich diogelwch eich hun osgowch yr ardal tra bod y mater yn cael ei ddatrys."
Llun: Google