
Gorsaf fysiau Caerdydd i agor ym mis Mehefin - bron i 10 mlynedd ers cau'r hen un
Bydd gorsaf fysiau newydd Caerdydd yn agor fis nesaf meddai Trafnidiaeth Cymru.
Cyhoeddodd y cwmni ddydd Iau y bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd, sydd yn cynnwys 14 o faeau ar gyfer bysiau, yn agor ar 30 Mehefin.
Caeodd yr hen orsaf fysiau yn 2015 a'r gobaith ar y pryd oedd y byddai un newydd ar agor erbyn 2017.
Yn y pen draw fe wnaeth Cyngor Caerdydd gymeradwyo cynlluniau ar gyfer gorsaf bws newydd ym mis Tachwedd 2018, gyda dyddiad agor o 2021.

Bellach mae'r orsaf newydd yn bwriadu agor o fewn ychydig wythnosau a bydd gan y cyhoedd y gyfle "i ddysgu am gyfleusterau newydd sydd ar gael" cyn i wasanaethau ddechrau yn swyddogol ar 30 Mehefin.
Yn ogystal â'r 14 bae bws, bydd yr orsaf yn cynnwys 100,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfeydd, unedau manwerthu a 318 o fflatiau.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru y bydd diweddariadau pellach ar y gwasanaethau yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
“Rydym yn falch o fod yn agor y gyfnewidfa fysiau newydd fis nesaf ac edrychwn ymlaen at groesawu cwsmeriaid ar 27, 28 a 29 Mehefin i weld y cyfleusterau newydd a dysgu am y gwasanaethau bws newydd," meddai.
“Bydd diweddariadau pellach ar y gwasanaethau bws a fydd yn rhedeg o’r cyfleuster newydd yn cael eu cadarnhau’n fuan.”