Newyddion S4C

Trevor Edwards, aelod o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 wedi marw

30/05/2024
Trevor Edwards

Mae Trevor Edwards, oedd yn aelod o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, wedi marw yn 87 oed.

Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn "drist o ddysgu am farwolaeth cyn-chwaraewr Cymru, Trevor Edwards."

Ychwanegodd y Gymdeithas bod meddyliau pawb yno gyda'i deulu a'i ffrindiau.

Fe wnaeth Edwards ennill dau gap i'w wlad, yn erbyn Gogledd Iwerddon ym mis Ebrill 1957 ac yn erbyn Dwyrain Yr Almaen fis yn ddiweddarach.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Jimmy Murhpy ar gyfer Cwpan y Byd 1958 yn Sweden ond nid wnaeth chwarae yn y gystadleuaeth.

Cafodd ei eni ym Mhenygraig, Rhondda Cynon Taf ym mis Ionawr 1937 ac aeth ymlaen i wneud 64 ymddangosiad i Charlton Athletic rhwng 1956 a 1960.

Yna aeth i chwarae i Gaerdydd lle sgoriodd tair gôl mewn 73 gêm.

Symudodd i Awstralia gan chwarae i dimau Sydney Hakoah a Melita Eagles, ac fe ennillodd Bencampwriaeth Awstralia gyda thîm Macaroni.

Treuliodd weddill ei fywyd yn Queensland.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.