Newyddion S4C

Gitâr goll John Lennon yn torri record mewn ocsiwn

30/05/2024
john lennon

Mae gitâr a gafodd ei defnyddio gan John Lennon wedi torri record mewn ocsiwn.

Y gitâr ydy'r offeryn drytaf erioed i gael ei defnyddio gan y Beatles a'i werthu mewn ocsiwn.

Fe gafodd y gitâr acwstig ei darganfod mewn atig ar ôl bod ar goll am fwy na 50 mlynedd.

Cafodd ei gwerthu am £2.3m mewn ocsiwn yn Efrog Newydd ddydd Mercher. 

Fe gafodd y gitâr ei defnyddio ar gyfer y gân You've Got To Hide Your Love Away yn y ffilm Help! ym 1965. 

Gwerthwyd y gitâr gan Julien's Auctions, sydd wedi torri sawl record byd gyda gwerthiannau offerynnau y Beatles.

Mae gwerthiannau yn y gorffennol yn cynnwys gitâr acwstig arall oedd yn berchen i John Lennon, a gafodd ei gwerthu am £1.9m a chit drymiau Ringo Star, a werthwyd am £1.7m.

Dywedodd prif weithredwr Julien's Auctions, David Goodman: "Mae'r gitâr yma nid yn unig yn rhan o hanes cerddorol ond hefyd yn symbol o waddol parhaol John Lennon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.