Dod o hyd i ddau gorff wrth chwilio am dad a mab ar goll yn Ucheldiroedd yr Alban
30/05/2024
Mae dau gorff wedi cael eu darganfod wrth chwilio am dad a mab oedd ar goll yn Ucheldiroedd yr Alban yn ôl yr heddlu.
Roedd Tom Parry, 49, a'i fab, Richie, 12, o Sir Gaer i fod i ddychwelyd adref ddydd Mercher ar ôl ymweld â Glen Nevis a Glencoe.
Fe gafodd eu car ei ddarganfod ym maes parcio'r Three Sisters yn Glencoe lle'r oedd y ddau wedi dechrau eu taith gerdded ddydd Mawrth.
Er nad yw'r cyrff wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol eto, mae eu teulu wedi cael gwybod am y diweddariad.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod ymholiadau yn parhau ond nad oes yna unrhyw amgylchiadau amheus ar hyn o bryd.