Newyddion S4C

Israel yn hawlio rheolaeth o ffin Gaza'n gyfan gwbl

30/05/2024
Gaza

Mae Israel yn dweud ei bod wedi hawlio rheolaeth o ffin tir gyfan Gaza.

Dywedodd byddin y wlad eu bod wedi hawlio rheolaeth o'r ardal ar hyd y ffin rhwng Gaza a'r Aifft, sy'n cael ei adnabod fel y Coridor Philadelphi.

Mae'r coridor yn ardal niwtral sy'n rhedeg ar hyd ochr Gaza o'r ffin gyda'r Aifft.

Dywedodd llefarydd ar ran Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) fod tua 20 o dwneli a oedd yn cael eu defnyddio gan Hamas i ddod ag arfau i Gaza wedi cael eu darganfod o fewn yr ardal. 

Mae'r Aifft wedi dweud yn y gorffennol ei bod wedi dinistrio'r twneli ar y ffin, gan olygu ei bod hi'n amhosib i smyglo arfau. 

Fe wnaeth ffynhonnell yn y wlad gyhuddo Israel "o ddefnyddio'r cyhuddiadau hyn i gyfiawnhau parhau'r ymgyrch yn ninas Palesteina, Rafah, ac i gadw'r rhyfel i fynd ar sail rhesymau gwleidyddol".

Mae Israel wedi mynnu bod yn rhaid iddi sicrhau rheolaeth o Rafah er mwyn ennill y rhyfel, a ddechreuodd wedi ymosodiad Hamas ar y wlad ar 7 Hydref. 

Fe gafodd 1,200 eu lladd a 252 o bobl eraill eu cymryd yn wystlon. 

Mae o leiaf 36,170 o bobl wedi marw ar draws Gaza ers dechrau'r rhyfel yn ôl y weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.