Cynllun dadleuol am orsaf reilffordd newydd yn Eryri
Mae cynllun dadleuol i adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn Eryri wedi ei ail-gyflwyno, ar ôl i gais tebyg gael ei wrthod flwyddyn yn ôl.
Mae cwmni Rheilffordd Ffestiniog wedi cyflwyno cais o'r newydd i greu gorsaf newydd ym Meddgelert.
Cafodd y cais blaenorol, oedd yn cynnwys swyddfa docynnau, caffi, mannau eistedd, toiledau a swyddfa, ei wrthod gan aelodau Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Mai 2023.
Ar y pryd derbyniodd yr awdurdod 21 o lythyrau yn mynegi pryder am faint y datblygiad, a'r effaith ar y pentref a busnesau lleol.
Cafodd y cais ei wrthod am bod yr awdurdod yn teimlo bod dyluniad a deunyddiau'r datblygiad yn "anaddas", ac oherwydd pryderon am yr effaith ar fusnesau a thrigolion lleol.
Mae'r ymgeiswyr bellach yn cydnabod fod y cynllun gwreiddiol wedi bod yn rhy fawr , a bod angen i'r datblygiad gael "llai o effaith gweledol."
Mae Cwmni Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn rhedeg teithiau trên rhwng Caernarfon a Phorthmadog.
Cafodd yr orsaf bresennol ym Meddgelert ei hagor yn 2009, ond mae'r cwmni'n dweud bod angen gwneud newidiadau i ymdopi a'r cynnydd yn nifer y teithwyr.
Byddai'r cynllun newydd yn cynnwys caffi a siop fechan, fyddai'n gwerthu nwyddau'n "gysylltiedig â'r rheilffordd", medd y cwmni.