'Cynyddol anoddach' i gael plant i ddarllen llyfrau Cymraeg
'Cynyddol anoddach' i gael plant i ddarllen llyfrau Cymraeg
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhybuddio ei fod yn “gynyddol anoddach” i ddenu plant i ddarllen llyfrau Gymraeg.
Fe ddaw’r rhybudd o faes Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn ddydd Mercher wrth i ddiwrnod o ddathlu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd gael ei gynnal.
Yn ôl Owain Dafydd, Rheolwr Cymunedau Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r mwyafrif o blant yn ffafrio llenyddiaeth Saesneg gan fod mwy o ddewis ar gael iddyn nhw.
“Mae ‘na gymaint o gynnwys Saesneg allan ‘na, mae’r plant yn troi at Saesneg,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
Dywedodd hefyd bod yr oes ddigidol yn golygu heriau ychwanegol, gyda mwy o gynnwys Saesneg yn ymddangos ar-lein nag yn Gymraeg.
“Yn yr oes ‘dyn ni ynddo fo ar hyn o bryd, dwi meddwl mae ‘na lot o bethau fel plant yn mynd ar TikTok, Snapchat, ac mae lot o bethau fel ‘na yn mynd trwy’r Saesneg.
“Mae’r mwyafrif o bethau maen nhw’n gweld, y cynnwys ar-lein, yn Saesneg felly mae ‘na frwydr wedyn i gadw’r iaith gyda’u ffrindiau.”
'Hollbwysig'
Ond yn ôl un o enillwyr prif gystadlaethau’r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi dysgwyr i gael gafael ar adnoddau yn haws.
Yn enillydd Medal Bobi Jones eleni, dywedodd Isabella Colby Browne ei bod yn “bendant” yn haws i bobl ifanc ddefnyddio adnoddau ar-lein o gymharu â mynd i’r siop lyfrau.
“Yn bendant ar hyn o bryd, mae’n lot fwy haws dwi’n meddwl i bobl ifanc.
“Yn enwedig i bobl ifanc sy’n mor dawel neu ddim isho mynd i’r siop llyfrau mewn person i chwilio – i jyst chwilio am adnoddau ar-lein.”
A hithau’n ddarllenwr brwd, dywedodd Melody Griffiths, enillydd Medal y Dysgwyr, bod llyfrau yn rhan “hollbwysig” o ddiwylliant Cymraeg.
“Mae’n dal llawer o bresenoldeb drwy hanes Cymraeg, pobl fel Saunders Lewis wedi ysgrifennu llenyddiaeth efo llawer o bŵer mwy na’ unrhyw beth arall.
“Ond hefyd mae llenyddiaeth modern yn helpu plant ifanc i gymryd diddordeb yn yr iaith hefyd a dyna pam dwi’n meddwl bod e mor bwysig.”
'Mwy o foddhad'
Yn ôl Bardd Plant Cymru, mae yna nifer cynyddol o lyfrau Gymraeg “anhygoel” yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn.
“Mae gallu bod yn heriol i gael plant i ddarllen yn Gymraeg, yn enwedig achos mae ‘na gymaint o ddewis yn Saesneg” meddai Nia Morais.
“Ond be’ dwi’n hoffi am lenyddiaeth Cymraeg yw bod e’n tyfu bob blwyddyn ac mae gyda ni awduron rili gwych."
Mae hi’n annog mwy o blant i ddarllen mwy o lyfrau, yn hytrach ‘na gwneud hynny ar y we neu ar ddyfeisiau.
“Mae’n rili foddhaol,” esboniodd.
“Mae’n rhoi rhywbeth i ni bod defnyddio’r sgrins ddim yn rhoi i ni, mae’n cymryd hirach ond mae’n fwy boddhaol yn y diwedd.”