Newyddion S4C

Connor Roberts i fethu dechrau'r tymor newydd oherwydd anaf

30/06/2021
Connor Roberts
Huw Evans Agency

Bydd chwaraewr pêl-droed Cymru ac Abertawe, Connor Roberts, yn methu dechrau tymor 2021-2022 oherwydd anaf. 

Fe fydd yn derbyn triniaeth ar ôl dioddef anaf yn ystod y gêm rhwng Cymru a Denmarc ddydd Sadwrn. 

Dywed Clwb Pêl-droed Abertawe mewn datganiad na fydd Roberts yn chwarae tan ddiwedd fis Medi, gan fethu allan ar ddechrau tymor 2021-22. 

Mae'n bosib y gall yr anaf effeithio ar ei allu i hyfforddi ar gyfer ymgyrch Cymru yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022. 

'Difrifoldeb yr anaf'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Elyrch: "Mae tîm meddygol y clwb wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.  

"Mae'r sgan wedi tynnu sylw at ddifrifoldeb yr anaf.

"Mae pawb yng nghlwb Abertawe yn dymuno gwellhad sydyn i Connor."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.