Etholiad 24: Y Blaid Lafur yn lansio ei hymgyrch yng Nghymru
Etholiad 24: Y Blaid Lafur yn lansio ei hymgyrch yng Nghymru
Bydd arweinydd y Blaid Lafur Keir Starmer yn ymuno â Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething i lansio ymgyrch y blaid yng Nghymru ddydd Iau.
Mewn digwyddiad yn ne Cymru, bydd Mr Starmer yn amlinellu ei gynllun ar gyfer Cymru sydd yn cynnwys "sefydlogrwydd economaidd" a "mynd i’r afael â’r ofn o golli swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot."
Bydd gweinidog cysgodol Cymru Jo Stevens hefyd yn bresennol yn y lansiad.
Ochr yn ochr â hynny bydd Starmer yn cyhoeddi cynllun chwe cham ar gyfer newid yng Nghymru a fydd yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru i dorri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd a recriwtio athrawon newydd, meddai.
Dyma Chwe Cham Llafur i Newid Cymru yn llawn:
1. Sicrhau sefydlogrwydd economaidd gyda rheolau gwario llym, fel bod modd tyfu'r economi a chadw trethi, chwyddiant a morgeisi mor isel â phosibl.
2. Torri amseroedd aros y GIG drwy dargedu'r rhai sy'n aros hiraf a'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae Llafur yn dweud y byddai'r arian am hyn yn dod o fynd i'r afael ag achosion o osgoi treth.
3. Lansio Gorchymyn Diogelwch Ffiniau newydd gyda channoedd o ymchwilwyr arbenigol newydd a defnyddio pwerau gwrthderfysgaeth i chwalu gangiau cychod troseddol.
4. Sefydlu Great British Energy, cwmni ynni glân dan berchnogaeth gyhoeddus fyddai'n gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i dorri biliau, hybu diogelwch ynni a chreu swyddi newydd. Mae Llafur yn dweud y byddai trethi ychwanegol ar gwmnïau olew a nwy mawr yn talu am hyn.
5. Atal ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda mwy o heddlu cymunedol - arian i dalu amdano i ddod o gael gwared â "chytundebau gwastraffus" i ben, cosbau newydd llym i droseddwyr, a buddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid.
6. Recriwtio athrawon newydd mewn pynciau allweddol i baratoi plant ar gyfer bywyd, gwaith a'r dyfodol - arian i ddod wrth ddod â seibiannau treth i ysgolion preifat i ben.
'Gwahaniaeth gwirioneddol'
Dywedodd Keir Starmer bod gan Gymru gyfle i fod yn "rhydd o anrhefn y Torïaid" ac i greu "gwahaniaeth gwirioneddol" i fywydau pobl y wlad.
“Dyma gyfle i bleidleisio dros Gymru o’r diwedd yn rhydd o effaith anhrefn a rhaniad y Torïaid. Troi’r dudalen a dechrau ailadeiladu ein cenhedloedd – ein gwlad gyfan ac ethol Llywodraeth y DU a fydd yn gwasanaethu buddiannau gweithwyr Cymru," meddai.
“Mae’r camau cyntaf hyn yn dangos bod Plaid Lafur y DU, sydd wedi newid, yn gwasanaethu dros bobl Cymru. Maent yn dangos ein blaenoriaethau, yr hyn sy'n bwysig i ni a'r hyn sy'n bwysig i'r cyhoedd. Gwlad yn gyntaf, plaid yn ail."
Ychwanegodd Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru bod yr etholiad yn gyfle i "ddychmygu Cymru newydd."
“Mae 4 Gorffennaf yn cynrychioli eiliad o’r diwedd, pan allwn ryddhau potensial llawn Cymru.
“Gyda dwy lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth, gan ddod â rhyfel y Torïaid ar ddatganoli i ben a chefnogi economi Gymreig gryfach.
“Yn yr etholiad hwn fe allwn ni ganiatáu i’n hunain ddychmygu Cymru newydd, sydd ddim yn cael ei dal yn ôl bellach gan 14 mlynedd o anhrefn Torïaidd.”
Polisïau'r pleidiau eraill
Yn ddiweddar mae'r Blaid Geidwadol wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer pobl ifanc 18 oed i oed naill ai ymuno â'r lluoedd arfog am flwyddyn neu gyflawni gwaith gwirfoddol yn eu cymuned.
Yn ôl y Prif Weinidog, byddai'r math yma o wasanaeth cenedlaethol yn creu cymdeithas well ac yn cryfhau cyfundrefn amddiffyn y Deyrnas Unedig.
Ym mis Chwefror eleni roedd Rishi Sunak wedi dweud y byddai'n "gwneud bob dim" i gefnogi ffermwyr Cymru yn dilyn protestiadau yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Mae'r blaid hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn cynyddu cyllid ar gyfer cymorth iechyd meddwl i ffermwyr.
Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddant yn darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn yng Nghymru ac yn buddsoddi i gyflogi 4,500 mwy o athrawon a staff ysgol.
Maen nhw eisiau recriwtio 1,000 o ddoctoriaid newydd a 5,000 o nyrsys yn ogystal.
Byddant hefyd yn cyflwyno Bil Amaeth Cymreig a fyddai'n rhoi pwyslais ar ddatgarboneiddio, cynnyrch cynaliadwy a bioamrywiaeth well.
Wrth lansio eu hymgyrch yn Nhrefyclo ym Mhowys ddydd Mercher, roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey wedi rhoi ffocws ar ffermio.
Roedd wedi addo £1 biliwn o arian ychwanegol ar gyfer cyllideb amaethyddiaeth gyda'r bwriad fyddai helpu’r sector i wella cynhyrchiant, hyfforddiant a thechnoleg.
Ychwanegodd fod pobl Cymru wedi cael eu “cymryd yn ganiataol” am gyfnod rhy hir gan y Llywodraeth Geidwadol a bod yr etholiad yn gyfle am newid.
Llun: Peter Byrne / PA