Merch 17 oed wedi marw ar ôl damwain a laddodd dau ddyn ifanc o Wrecsam
Mae merch 17 oed hefyd bellach wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Sir Stafford a laddodd dau ddyn ifanc o Wrecsam.
Dywedodd Heddlu Sir Stafford bod y ferch wedi marw nos Fawrth yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd Cannock yn Penkridge ddydd Sadwrn, 25 Mai.
Roedd Dafydd Hûw Craven-Jones, 18, o Danyfron, Wrecsam, a Morgan Jones, 17, o Goedpoeth, Wrecsam eisoes wedi marw yn yr un gwrthdrawiad.
"Mae teulu’r ferch yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ar yr adeg anodd hon a gofynnwn i'w preifatrwydd gael ei barchu," meddai'r heddlu.
Cafodd un ferch arall 17 oed ei hanafu yn ogystal.
Dywedodd y llu eu bod yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad, gan nodi fod y bobl ifanc yn teithio mewn car Ford Ka.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno toc cyn hanner nos, nos Sadwrn.
Llun: Google