Newyddion S4C

Anafiadau i ligament yn y pen-glin yn fwyfwy cyffredin i ferched

29/05/2024

Anafiadau i ligament yn y pen-glin yn fwyfwy cyffredin i ferched

"O'n i'n chwarae pel-droed. Wrth i fi redeg, o'n i wedi rhoi fy nhroed chwith lawr er mwyn treial cicio'r bel gyda'r droed dde. Wrth i mi wneud, o'dd fy mhen-glin jyst 'di mynd y ffordd anghywir."

Tri mis ar ol anafu ei ACL, mae gan Molly daith hir o'i blaen. Fydd hi ddim yn camu i'r cae am o leiaf blwyddyn arall a dyw e ddim yn anaf anghyffredin iddi hi chwaith.

"Dw i 'di neud union yr un peth i'r goes arall so o'n i'n gwybod yn syth beth o'n i 'di wneud. Yn ffisegol yn mynd lan a lawr y star, o'n i'n ffaelu neud 'na. Cael cawod, newid dillad.

"I fod yn onest, yr effaith mwyaf oedd yn feddyliol, i fi. Ar ol i fi neud e o'n i'n teimlo'n rili isel jyst oherwydd yr ansicrwydd."

Yn ôl y Gymdeithas Brydeinig Orthopaedig mae menywod chwe gwaith yn fwy tebygol o ddiodde anaf i'w ACL o gymharu gyda dynion a phel-droed sy'n gyfrifol am hanner o bob llawdriniaeth i'r ACL ar draws y Deyrnas Unedig.

Wrth i garfan merched Cymru wynebu Wcrain yng ngemau rhagbrofol Ewro 2025, mae'n ymddangos bod hon yn broblem ar lefel ucha'r gamp.

Bydd Elise Hughes, aelod o'r garfan, yn colli gweddill yr ymgyrch oherwydd yr anaf.

"This is football. Injuries happen. They're awful and upsetting and in the women's game, ACLs are quite a reality at the moment.

"We're very sad for Elise but also excited that we'll hopefully have her back once we qualify."

"Mae'r ACL tu fewn i'r ben-glin. Mae o'n ffurfio cross."

I'r rhai sy'n arbenigo yn y maes mae nifer yr achosion yn dod yn fwy-fwy cyffredin.

"Mae llawer gormod o ferched yn anafu ACLs. Mae 'na lot o resymau bod hwnna'n gallu digwydd. Maen nhw'n son am hormonau yn gallu cael effaith.

"Rhywbeth o'r enw'r Q Angle oherwydd bod pelfis merched fel arfer chydig bach mwy llydan. Y peth mwyaf pwysig rili fydd cryfder y cyhyrau a'r gallu i reoli symudiadau."

Oes yna ddigon o gefnogaeth ar gael i chwaraewyr y dyfodol?

"Mae 'na rywbeth i neud gyda llwyth, faint o'r chwaraewyr nawr sydd yn ymarfer yn fwy aml a chyson a ddim yn cael y sylw neu'r gofal meddygol yna. Pa mor hir mae'n rhaid aros i gael triniaeth? 

"Ffisiotherapi. Gall hwnna fod yn broses anodd i ddelio gyda."

Ond i Molly, mae hi'n gobeithio derbyn llawdriniaeth... ..o fewn y chwe mis nesa ac yn anelu at ddychwelyd i'r cae. Ond taith hir fydd hi, un cam ar y tro.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.