Marwolaeth Tomasz Waga: Apêl i ddod o hyd i dri dyn

Mae’r elusen annibynnol Crimestoppers wedi lansio apêl o’r newydd i geisio dod o hyd i dri dyn mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yng Nghaerdydd.
Cafodd corff Tomasz Waga ei ddarganfod ar stryd ym Mhenylan ar 28 Ionawr eleni.
Mae Crimestoppers yn cynnig £5,000 am wybodaeth ag y gallai arwain at arestio Gledis Mehalla, 19, Elidon Elezi, 22, a Artan Pelluci, 29.
Y cyfeiriad mwyaf diweddaraf ar gyfer Mr Mehalla a Mr Pelluci oedd ardal y Waun Ddyfal, Caerdydd, tra mai Llundain oedd y cyfeiriad mwyaf diweddaraf ar gyfer Mr Elezi.
Mae pum dyn eisoes wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Waga, ac mae sawl cerbyd wedi’u meddiannu fel rhan o’r ymchwiliad.
Mae’r heddlu yn parhau i chwilio am Mercedes C200 llwyd/arian gyda’r plât cofrestru BK09 RBX.
Darllenwch y stori’n llawn yma.