Newyddion S4C

Rafah: Yr Urdd yn cynnal gwylnos ar faes yr Eisteddfod

29/05/2024

Rafah: Yr Urdd yn cynnal gwylnos ar faes yr Eisteddfod

Mae’r Urdd wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cynnal gwylnos ar faes yr Eisteddfod nos Wener wrth i ymosodiadau Israel ar ddinas Rafah yn Gaza barhau.

Dywedodd Prif Weithredwr, Siân Lewis ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ei fod yn “anodd anwybyddu erchylltra digwyddiadau Rafah yr wythnos hon”.

Bydd yr wylnos yn cael ei chynnal am 18:15 nos Wener (31 Mai) ger Llwyfan y Cyfrwy maes yr Eisteddfod. 

“Tra mae ieuenctid Cymru yn mwynhau ac yn elwa o’u profiadau yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod, mae’n anodd anwybyddu erchylltra digwyddiadau Rafah yr wythnos hon.,” meddai Siân Lewis.

“Mae’r Urdd yn datgan yn glir ein bod yn gwrthwynebu trais yn erbyn plant ledled y byd. 

“Mae heddwch yn hawl sylfaenol i blant o bob cefndir, hil a chrefydd, ac mae gan bob plentyn yr hawl i gael eu hamddiffyn yn ystod rhyfel. 

“Fel y rhannwyd gan ein haelodau yn eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn gynharach y mis hwn, mae’r Urdd yn parhau i ddatgan yr alwad am heddwch byd eang  a chadoediad yn Gaza.” 

Yn yr oriau diwethaf mae lluoedd arfog Israel wedi cyrraedd canol y ddinas yn ne Gaza.

Daw wedi i ymosodiadau o’r awyr a thân a’i dilynodd ladd 45 o bobl ddydd Sul.

Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi cynnal cyfarfod brys er mwyn ymateb i ymosodiad Israel ar Rafah.

Daw wrth i Sbaen, Iwerddon a Norwy gydnabod cyflwr Palestina yn ffurfiol.

Llun: Rafah gan Wochit / Siân Lewis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.