Newyddion S4C

Diane Abbott yn dweud ei bod wedi 'ei gwahardd' rhag cynrychioli Llafur

29/05/2024

Diane Abbott yn dweud ei bod wedi 'ei gwahardd' rhag cynrychioli Llafur

Mae Diane Abbott wedi dweud ei bod hi wedi 'ei gwahardd' rhag cynrychioli Llafur yn yr etholiad cyffredinol. 

Fe gafodd Ms Abbott, sy'n AS ar gyfer Gogledd Hackney a Stoke Newington, y chwip yn ôl ddydd Mawrth.

Daw hyn fisoedd wedi i ymchwiliad i'r sylwadau hiliol a gafodd eu gwneud gan Ms Abbott gael ei gwblhau.

Dywedodd Ms Abbott fore Mercher: "Er bod y chwip wedi cael ei adfer, dwi wedi cael fy ngwahardd rhag sefyll fel ymgeisydd Llafur."

Fe gafodd Ms Abbott ei gwahardd fel Aelod Seneddol y blaid yn dilyn cyhoeddi llythyr am hiliaeth yn yr Observer ym mis Ebrill y llynedd.

Roedd y llythyr gan Ms Abott yn ymateb i erthygl yn yr Observer gyda’r pennawd, ‘Nid yw hiliaeth ym Mhrydain yn fater du a gwyn. Mae’n llawer iawn fwy cymhleth.'

Yn y llythyr, awgrymodd Ms Abbott fod grwpiau fel Gwyddelod, Iddewon a Theithwyr wedi profi rhagfarn yn hytrach na hiliaeth.

Yn fuan ar ôl i'r llythyr gael ei gyhoeddi, fe ddywedodd Ms Abbott mewn datganiad ei bod yn dymuno "tynnu fy sylwadau yn ôl yn gyfan gwbl ac yn ddiamod a datgysylltu fy hun oddi wrthynt.

“Cododd y gwallau wrth i ddrafft cychwynnol gael ei anfon. Ond does dim esgus, a hoffwn ymddiheuro am unrhyw boen a achoswyd."

Roedd ei gwaharddiad o'r blaid yn golygu nad oedd modd iddi gynrychioli Llafur ar 4 Gorffennaf yn yr etholiad cyffredinol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.