Newyddion S4C

Teyrngedau i ddau lanc o Wrecsam wedi gwrthdrawiad yn Sir Stafford

28/05/2024
Y ddau lanc

Mae'r heddlu yn Sir Stafford wedi cyhoeddi enwau dau lanc o Wrecsam sydd wedi marw mewn gwrthdrawiad dros y penwythnos.

Dywedodd y llu fod Dafydd Hûw Craven-Jones, 18, o Danyfron, Wrecsam, a Morgan Jones, 17, o Goedpoeth, Wrecsam wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Cannock yn Penkridge ddydd Sadwrn, 25 Mai.

Dywedodd teulu Dafydd Hûw ei fod yn fab, brawd, ewythr ac ŵyr bendigedig. 

“Dafydd oedd y person mwyaf caredig y byddech yn dymuno ei gwrdd," medden nhw. "Roedd pawb yn ei garu, fe oedd babi'r teulu.

“Roedd yn caru ei ffrindiau yn fwy na bywyd ei hun. Ac yn y modd mwyaf trychinebus, fe arweiniodd hynny at ei ymadawaid o'r byd yma tra'n helpu ffrind ar y noson ofnadwy hon.   

“Mae'n gysur i ni wybod y byddai Dafydd wastad yn ymdrechu hyd yr eithaf i helpu ei ffrindiau

“Rydym yn gofyn am breifatrwydd ar yr amser trist hwn, ond yn diolch i bawb am eu negeseuon caredig."   

''Serennu'

Dywedodd teulu Morgan ei fod yn fab ac ŵyr cariadus. 

“Roeddem mor falch ohono," medden nhw. "Roedd yn berson a oedd yn mwynhau'r awyr agored, ac yn serennu ym maes rygbi, criced a marchogaeth ceffylau.   

“Bydd yn cael ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau ym maes rygbi, criced a cheffylau. 

“Roedd hefyd wrth ei fodd yn ffermio, ac wedi sicrhau lle mewn coleg amaethyddol. 

“Bydd yn cael ei golli am byth gan ei Fam, ei Dad, ei Daid a'i Fodryb.”

Cyhoeddodd yr heddlu eu bod yn dal i ymchwilio i achos y gwrthdrawiad, gan nodi fod y bobl ifanc yn teithio mewn car Ford Ka. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno toc cyn hanner nos, nos Sadwrn.   

Mae dwy ferch 17 oed yn cael triniaeth mewn ysbyty ac mae un mewn cyflwr difrifol. 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.