Maes Eisteddfod yr Urdd eleni 'yn fwy hygyrch'
Maes Eisteddfod yr Urdd eleni 'yn fwy hygyrch'
Mae maes Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn eleni yn fwy hygyrch i gystadleuwyr ac ymwelwyr, meddai’r mudiad ieuenctid.
Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw wedi ymgynghori gydag arbenigwyr ym maes anabledd a hygyrchedd i’r celfyddydau, ac mae cyfres o ddatblygiadau wedi’u gwneud er mwyn sicrhau bod y maes a gweithgareddau’r ŵyl yn hygyrch a chynhwysol.
Mae’r rhain yn cynnwys toiled ‘high dependency’ hygyrch ar gael ar y Maes a gwasanaeth arwyddo ar alw ym mhob pafiliwn, drwy gais yn y Ganolfan Groeso.
Mae'r Eisteddfod hefyd wedi darparu adnoddau ar gyfer ymwelwyr dall a byddar, ac mae staff adran Eisteddfod yr Urdd wedi derbyn hyfforddiant mynediad a chynhwysiant anabledd
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd: “Fel rhan o’n partneriaeth gyda Disability Art Cymru a Taking Flight, rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd a mynediad at ein digwyddiadau celfyddydol, sy’n cynnwys maes Eisteddfod yr Urdd.
“Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac mae gwyliau celfyddydol yn haeddu cael eu mwynhau gan bawb.
“Yn ogystal â datblygu ac addasu maes yr Eisteddfod, rydym hefyd am sicrhau cyfleoedd i artistiaid anabl a niwroamrywiol i berfformio ac arwain yn ein darpariaeth gelfyddydol.”