17 mlynedd o garchar i ddyn am geisio llofruddio menyw feichiog yn Aberfan
Mae dyn wedi’i garcharu yn Llys y Goron Merthyr Tudful am 17 mlynedd a phedwar mis am geisio llofruddio dynes feichiog yn Aberfan ar 5 Rhagfyr y llynedd.
Roedd Daniel Mihai Popescu wedi pledio'n euog i geisio llofruddio Andreea Pintili mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ar 4 Ebrill eleni.
Clywodd y gwrandawiad hwnnw bod Popescu wedi stelcian ac aflonyddu ar Andrea Pintilli trwy ei dilyn, ceisio ei ffonio o rifau anhysbys, ei recordio ar fideo a phostio ar TikTok ynghyd ag eistedd y tu allan i'w chyfeiriad rhwng 25 Hydref 2023 a 6 Rhagfyr 2023.
Cafodd swyddogion eu galw ychydig cyn 9.10 ddydd Mawrth 5 Rhagfyr y llynedd yn dilyn adroddiadau bod dynes wedi cael ei thrywanu ar Moy Road, Aberfan, Merthyr.
Roedd Daniel Popescu wedi gadael y lleoliad ar unwaith. Am 15.50pm y prynhawn hwnnw cafodd ei arestio yn ardal Merthyr ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Cafodd y dynes ei chludo i'r ysbyty ond cafodd ei ryddhau y diwrnod canlynol.
'Dieflig'
Dywedodd Ditectif Arolygydd James Morris o Heddlu De Cymru ei fod yn amlwg mai bwriad Popescu oedd lladd y ddynes.
“Arfogodd Daniel Popescu ei hun â chyllell a bu’n aros am ei ddioddefwr cyn lansio gweithred ddisynnwyr a pharhaus o drais yng nghanol y stryd," meddai.
"Ni allaf ond dychmygu'r ofn y mae'n rhaid ei bod wedi'i deimlo a'r effaith y mae'r digwyddiad cythryblus hwn wedi'i gael arni.
“Mae’n amlwg o’r grym dieflig a ddefnyddiodd mai ei fwriad oedd ei lladd.
“Mae cryfder a dewrder y dioddefwr wrth gefnogi’r erlyniad hwn wedi bod yn rhyfeddol. Nid yw’n syndod ei bod yn parhau i fod wedi’i chreithio’n seicolegol o ganlyniad i’r digwyddiad, ond diolch i’w dewrder, ni fydd Daniel Popescu yn gallu niweidio rhagor o fenywod.
"Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn dod â rhywfaint o dawelwch meddwl iddi.
“Rhaid i mi hefyd ganmol gweithredoedd aelodau o'r cyhoedd am eu dewrder wrth redeg i helpu’r dioddefwr ar ôl yr ymosodiad.”