Newyddion S4C

Tair cenhedlaeth ym Maldwyn: Betsan, Mari a Beryl

29/05/2024

Tair cenhedlaeth ym Maldwyn: Betsan, Mari a Beryl

Mae Betsan, ei mam, Mari, a'i Nain, Beryl, yn dair cenhedlaeth sy'n byw ym Maldwyn. 

Mae Betsan wedi bod yn cystadlu yn brysur yn yr Eisteddfod yr wythnos hon, tra bod ei mam, Mari Lovgreen, wedi bod yn cyflwyno'r arlwy o Lwyfan y Cyfrwy.

Mae ei Nain, Beryl Vaughan, yn ganolog i drefnu yr ŵyl. 

Wrth siarad ar Faes yr Eisteddfod ychydig wedi iddi fod yn rhan o barti llefaru buddugol ddydd Mawrth, dywedodd Betsan: "Wel, dwi'n licio bod o wedi mynd i Maldwyn achos ma' ffrindie yn gallu jyst dod at ei gilydd a chware, a dwi yn rili licio cystadlu achos dwi'n licio bod yn hapus efo ffrindie."

Ychwanegodd Mari: "Dwi'n teimlo bod y 'Steddfod 'ma chydig bach fwy sbeshial achos bod hi ar ein patsh ni a dwi'n meddwl bod lot o bobl ddim yn cysylltu'r ardal yma efo fi achos bo' fi o Gaernarfon.

"Ond yn byw 'ma rŵan ers bron i 20 mlynadd a dau o blant bach sy'n blant bach Dyffryn Banw 100% felly ti yn teimlo bod 'na deimlad o berthyn a dathliad yn mynd ymlaen 100%."

'Mor lwcus'

Mae'r profiad o weld ei phlant, Betsan ac Iwan, yn perfformio wedi bod yn un emosiynol yn ôl Mari. 

"Mae o wedi bod yn emosiynol iawn yn gweld y plant yn perfformio a ma' genna ni ysgol mor sbeshial. Ma' hi'n ysgol fach ond mae o fel teulu bach. Ma'r hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr a'r athrawon wedi mynd above and beyond 'leni achos yn amlwg, 'Steddfod Maldwyn," meddai. 

"Ma' gweld nhw wedyn yn llwyddo a gweld eu gwyneba bach nhw - mae o werth y byd. Ma' nhw mor lwcus i gael y profiada' 'ma ar eu stepan drws nhw a dwi'm yn meddwl nawn nhw fyth anghofio'r Steddfod yma.

"Ma' hwn wedi bod yn rwbath mawr i'r teulu i gyd, a teulu Caernarfon 'di dod hefyd, a ma' pawb yn rhan o'r jig-sô, ac yn rhannu'r un emosiwn o fod yn rhan o rwbath 'dan ni gyd yn teimlo bod ni'n perthyn idda fo."

Mae mam-yng-nghyfraith Mari a Nain Betsan, Beryl Vaughan, wedi bod yn brysur iawn ac yn ganolog yn y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod. 

"Cyfleoedd ydi'r Urdd a mae o'n bwysig bod o'n cael ei basio ymlaen i'r genhedlaeth nesa' a bwrlwm a gweld yr hen blant yn hapus ac wrthi'n cystadlu eu gora'.

"Ma'r teuluoedd 'ma i gyd yn dod at ei gilydd. Ma'r plant yn cael cyfla i fod ar lwyfan cenedlaethol yn enwedig ers y tair blynadd dwytha a dwi'n meddwl bod 'na fwrlwm mawr yma ac wrth gwrs, mae'r maes yma yn rhagorol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.