Newyddion S4C

'Cymru ar ei cholled' os bydd 'eglwys Ann Griffiths' yn cael ei gwerthu

29/05/2024

'Cymru ar ei cholled' os bydd 'eglwys Ann Griffiths' yn cael ei gwerthu

Fe fydd "cenedl Cymru ar ei cholled" os bydd eglwys hanesyddol yn cael ei gwerthu ym Mhowys yn ôl un sy'n byw yno.

Fe wnaeth yr Eglwys yng Nghymru dro pedol ar benderfyniad i werthu eglwys hanesyddol Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn y canolbarth am y tro, a hynny'n dilyn cwynion am yr arwerthiant diweddar.

Cafodd ymgyrch ei sefydlu yn ystod mis Ebrill i sicrhau dyfodol yr eglwys - eglwys oedd yn ganolog i fywyd yr emynyddes Ann Griffiths.

Fe gafodd Ann Griffiths ei bedyddio, priodi a'i chladdu yn yr eglwys.

Roedd yr adeilad i fod i fynd ar werth am £30,000 ag uwch mewn arwerthiant yn fuan.

Cafodd deiseb ei sefydlu yn galw ar Esgobaeth Llanelwy i atal gwerthiant yr eglwys ar 11 Ebrill.

'Difrifol'

Wrth siarad ar Faes Eisteddfod yr Urdd, dywedodd Mair Ellis, sy'n byw yn yr ardal: "Dwi'n teimlo nid yn unig fod yr ardal yn mynd i fod ar ei cholled, bod cenedl Cymru yn mynd i fod ar ei cholled achos ma'r eglwys yna, mae 'di bod yn rhan o dröedigaeth, o fagwraeth Ann Griffiths.

"Dwi'n teimlo os y byddan nhw'n cau y capel heb bod ymladd a heb bod pobl Cymru yn mynd i ymateb i'r peth, bod y peth yn ddifrifol."

Mae Tom a John Ellis yn efeilliaid sydd hefyd yn byw yn yr ardal ac wedi eu magu yno. Mae'r ddau wedi bod yn bregethwyr cynorthwyol yn yr ardal ers 62 o flynyddoedd.

Dywedodd John: "Mae Ann Griffiths wedi bod yn fy meddwl i ers pan o'n i'n blant, yn clywed ei hanes hi, John Hughes a Ruth wrth gwrs yn 'sgwennu ei hemynau hi lawr a wedyn gorfod eu dysgu nhw pan o'n i'n blant. So mae Ann Griffiths a'i hanes hi wastad yn y cof ers i fi dyfu fyny yn yr ardal."

Ychwanegodd Tom: "Mae'r hanes yn un bwysig i gadw i fynd a mae ei hemynau hi mor fendigedig a wel, rhaid mi ddweud, 'den ni'n colli rhan helaeth o hanes yr ardal efo capel Llanfihangel yn mynd 'chos bod Ann Griffiths mor gysylltiedig efo'r capel."

Mae Mair yn poeni na fydd ieuenctid yr ardal a Chymru yn ehangach yn ymwybodol o bwysigrwydd y capel ac Ann Griffiths. 

"Ond i feddwl am yr hanes sy'n mynd i gael ei golli, bod ieuenctid yn mynd i golli allan o wybod am Ann Griffiths a'i chefndir hi, ma'r stori, mae'r eglwys yn rhan o'i stori hi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.