Newyddion S4C

Lleoliadau cerddoriaeth yn Abertawe yn galw am well cyswllt trafnidiaeth

ITV Cymru 05/06/2024
Abertawe

Mae perchnogion lleoliadau cerddoriaeth yn Abertawe wedi arwyddo deiseb sydd bellach yn cael ei hystyried gan bwyllgor deisebau Senedd Cymru.

Ynghyd ag Arena Abertawe, mae lleoliadau yn cynnwys The Bunkhouse, Elysium, Hippos, Sin City a Hangar 18 yn dweud bod diffyg trafnidiaeth gyda’r nos yn golygu bod llai o bobl yn eu cefnogi. 

Mae’n nhw’n galw am newid er mwyn gwneud yn siwr bod lleoliadau cerddoriaeth lleol yn hygyrch i bawb. 

Mae'r cyswllt trên olaf yn rhedeg i'r dwyrain o Abertawe am 22:37.

Dywedodd perchennog The Bunkhouse, Jordan McGuire: “Gan nad oes gennym ni gysylltiadau trafnidiaeth da, does dim modd denu pobl o’n siroedd cyfagos fel Castell-nedd a Phort Talbot.”

Ychwanegodd: “Rwy’n sicr ei fod wedi’i deimlo gyda hyrwyddwyr sy’n ceisio dod a bandiau i Abertawe lle mae eu hasiantau yn dweud 'dyw e ddim yn gynaliadwy a ni fydden ni’n cael y dorf'. Mae'n anodd iawn.

“Rydyn ni’n cael pobl yn gadael gigs a phobl yn gwneud sylw ar ein cyfryngau cymdeithasol yn dweud byddenn nhw wrth eu bodd yn mynd ond bydden nhw’n methu cyrraedd adref.

“Dydw i wir ddim yn meddwl y dylai celfyddydau a cherddoriaeth gael eu cyfyngu i bobl. Mae wedi dod i’r pwynt lle rydyn ni fel busnes wedi ystyried llogi bws i gael pobl adref.

Mae Scott Mackay, rheolwr Elysium yn adleisio’r galwadau hyn.

Dywedodd wrth ITV Cymru: “Mae pobl wedi eu hynysu yn eu gymunedau, mae nhw methu mas oni bai eu bod yn byw ar un o’r prif lwybrau cefn.

“Yn anffodus ar hyn o bryd, ni all Abertawe fod yn gyrchfan i bobl Caerdydd.

“O ran gwneud Abertawe yn gyrchfan, byddai’n fantais aruthrol i’r ddinas gyfan gael trafnidiaeth gwell yn gyffredinol.

“Mae’n rhwystredig i bobl oherwydd mae’n creu haen o broblemau sydd ddim angen bod yna, hyd yn oed yn yr ardal leol byddai’n braf cael bysiau hwyrach.”

Mae Mike Hedges. aelod o Senedd Cymru dros Ddwyrain Abertawe, yn credu bod Abertawe angen gwell seilwaith trafnidiaeth ar y ddinas "ar frys". 

“Mae’n bwysig bod pobl yn cael y cyfle i allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd lle maen nhw eisiau mynd

“Mae’n hynod bwysig i bobl allu cael mynediad i’r gerddoriaeth yma.”

Dywed Mr Hedges ei fod wedi bod yn galw am system drafnidiaeth integredig ers 40 mlynedd.

“Pan welais i Ed Sheeran ym Mharc Singleton dywedodd mai’r tro diwethaf iddo chwarae yn Abertawe oedd yn Sin City.

“Os ydych chi'n mynd i fod yn gerddor llwyddiannus, oni bai eich bod chi'n ennill cystadleuaeth yr unig ffordd rydych chi'n mynd i fod yn llwyddiannus yw llwybr caled hir trwy fynd allan yna, trwy chwarae lleoliadau bach a gwneud eich ffordd i fyny i leoliadau fel The Bunkhouse  a Sin City.

“Mae'n rhaid i chi ddechrau ryn hywle ac mae'n rhaid i'r cyfle fod yno i gerddorion.” 

Mae’r ddeiseb gan berchnogion lleoliadau cerddoriaeth y ddinas wedi derbyn 8,226 o lofnodion, ac mae pwyllgor deisebau’r Senedd bellach yn ei hystyried.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus wrth gefnogi economi’r nos. Drwy Trafnidiaeth Cymru, a thrwy weithio gyda Network Rail, rydym yn archwilio’r gofynion ar gyfer cyflwyno gwasanaethau diweddarach i Abertawe ac oddi yno.

“Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni eleni eto wedi cefnogi lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad ledled Cymru drwy ein Cronfa Cerddoriaeth Gyfalaf – gan helpu i sicrhau bod y rhai sy’n hoff o gerddoriaeth ac artistiaid ledled Cymru yn gallu elwa ar leoliadau cerddoriaeth lleol, llawr gwlad yn ogystal â lleoliadau mwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.