Cyhuddo’r Pab o ddefnyddio iaith ddirmygus
Mae 'na adroddiadau bod y Pab Francis wedi defnyddio iaith ddirmygus wrth drafod pobl hoyw mewn cyfarfod preifat.
Mewn cynhadledd o esgobion yr Eidal fe ofynnwyd iddo a ddylai dynion hoyw gael yr hawl i hyfforddi i fod yn offeiriad pe byddant yn parhau i ymwrthod â rhyw.
Dywedodd y Pab Francis na ddylent a’r gred yw ei fod wedyn wedi defnyddio’r term 'frociaggine', sydd yn air sarhaus.
Y wefan ymchwiliadol Eidaleg Dagospia wnaeth adrodd y stori gyntaf.
Ers hynny mae asiantaethau newyddion eraill yn yr Eidal wedi cadarnhau bod nifer o ffynonellau wedi dweud yr un peth wrthyn nhw.
Mae ei sylwadau honedig wedi synnu nifer.
Yn y gorffennol mae wedi dweud bod yna groeso yn yr Eglwys i bobl hoyw.
Mae hefyd wedi dweud y dylai cyplau o’r un rhyw gael eu bendithio mewn rhai amgylchiadau.
Yn ôl ei gefnogwyr mae wedi llwyddo i newid agwedd yr Eglwys tuag at y gymuned hoyw.
Maent yn dweud fod y Pab, sydd yn siarad Sbaeneg, weithiau yn gwneud camgymeriadau gyda thermau tafodieithol a'i fod ddim wedi deall y byddai yn pechu pobl i'r fath raddau trwy ddefnyddio’r term.
Ond mae rhai asiantaethau newyddion yn dweud fod y Pab wedi defnyddio iaith ddirmygus sawl gwaith yn ystod y cyfarfod.
Dyw Y Fatican ddim wedi gwneud sylw ar y mater hyd yn hyn.