Newyddion S4C

Netanyahu yn dweud y bydd yn parhau â'r rhyfel yn Gaza

28/05/2024
Rafah

Mae Prif Weinidog Israel wedi dweud y bydd y rhyfel yn erbyn Hamas yn parhau.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r gymuned ryngwladol gondemnio'r ymosodiad ar wersyll ffoaduriaid yn Rafah ddydd Sul.

Yn ôl yr awdurdodau ar ran Hamas cafodd 45 o bobl eu lladd a channoedd eu hanafu.

Mae disgwyl i’r Cenhedloedd Unedig gynnal cyfarfod brys ddydd Mawrth i drafod yr ymosodiad.

Dywedodd Benjamin Netanyahu fod yr hyn ddigwyddodd yn “ddamwain drasig”. Ond ychwanegodd, “Does gen i ddim bwriad dod a’r rhyfel i ben tan fod bob nod wedi ei gwblhau.”

Wrth siarad yn senedd Israel dywedodd Mr Netanyahu bod y fyddin yn ceisio sicrhau bod trigolion yn cael eu hamddiffyn. Dywedodd fod Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn “gwneud eu gorau glas i beidio anafu'r rhai hynny sydd ddim yn ymwneud â'r gwrthdaro”.

Ddydd Llun dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fod yr ymosodiad wedi lladd nifer o “ddinasyddion diniwed oedd dim ond yn llochesu rhag y rhyfel marwol yma.

“Does dim lle saff yn Gaza. Mae’n rhaid i’r erchylltra yma stopio.”

Llun: Wochit

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.