Yr Urdd yn ymddiheuro am oedi wrth adael maes y Brifwyl ym Meifod
27/05/2024
Mae mudiad yr Urdd wedi ymddiheuro wrth i rai ddweud eu bod nhw wedi aros am ddwyawr wrth geisio gadael maes Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn.
Nododd y mudiad ieuenctid fod cannoedd o geir yn ceisio gadael y maes wedi diwrnod cyntaf y cystadlu ddydd Llun.
Mewn datganiad ar gyfrif Eisteddfod yr Urdd ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Urdd: "Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra wrth i gannoedd adael y Maes.
"Mae ein timoedd yn gweithio'n galed i gael pawb allan cyn gynted â phosib."
Mae nifer wedi nodi ar gyfryngau cymdeithasol nad ydyn nhw wedi symud ers dros ddwyawr mewn ciw enfawr, wrth iddyn nhw geisio gadael y maes ym Meifod.