Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

27/05/2024

Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ddydd Llun cyhoeddwyd mai Wanesa Kazmierowska o Abertawe yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Saffron Lewis o Sir Benfro yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.

Mae Wanesa (ar y chwith uchod) yn 19 oed ac yn astudio ar gyfer Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr yn Abertawe. Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae hi wedi byw yn Abertawe ers dros 14 mlynedd. 

Mae ganddi le wedi’i gadarnhau yn UAL (University of the Arts London) y flwyddyn nesaf i astudio Darlunio a Chyfryngau Gweledol ac mae’n gobeithio cymhwyso fel artist/darlunydd graffeg yn y dyfodol.

Mae Saffron Lewis (ar y dde uchod), enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn fyfyriwr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfro ac ar fin mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Celfyddyd Gain ym mis Medi.

Noddir y seremoni eleni gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen. Cyflwynir Ysgoloriaeth Artist Ifanc, gwerth £2,000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18–25 oed. 

A chyflwynir y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch adran blwyddyn 10–19 oed.

Wanesa Kazmierowska - enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc

Meddai Wanesa: “Rwy’n mwynhau arbrofi gyda chyfryngau ac arddulliau artistig amrywiol i ehangu fy sgiliau, yn benodol gwneud printiau, celf ddigidol a phaentio gouache.”

Mae ei chelf wedi cael ei arddangos mewn tair oriel yn Abertawe, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian. Derbyniodd fwrsariaeth gan Weithdy Argraffu Abertawe a chymerodd ran mewn prosiect i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Llyfrgell Glowyr De Cymru. Roedd ei phrint, "The Descent/Descent," yn un o'r 20 print a ddewiswyd, ac mae'n cael ei arddangos ar hyn o bryd yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin.

Beirniad y gystadleuaeth oedd Jo Munton a Kate Morgan-Claire. Yn eu beirniadaeth, dywedodd y ddwy: “Roedd maes y cynigion yn eang, a’r safonau’n uchel, mae’n amlwg bod gan bawb gariad at eu maes creadigol a’r hyn sy’n eu hysbrydoli. 

"Mae gan Wanesa ffocws mawr ar ei gwaith a sut yr hoffai ei ddatblygu. Mynegodd ei syniadau mor eglur fel ei bod yn hawdd gweld bod ganddi lawer o botensial fel artist. Roedd ei gallu i ddeffro’r emosiynau ac adrodd stori trwy ei delwedd o’r glöwr a’r caneri yn gwneud i’r gwaith hwn sefyll allan.”

Saffron Lewis - enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

Meddai Saffron Lewis: “Dechreuodd fy nghariad at y celfyddydau yn ifanc iawn ac ar hyd y blynyddoedd mae hyn wedi tyfu. Mae arbrofi gydag amryw o wahanol gyfryngau a phrosesau artistig yn cadw fy angerdd yn fyw.

“Mae testun fy ngwaith yn bennaf yn organig ac yn gynaliadwy. Rwy'n hoffi amsugno awyrgylch fy amgylchoedd i greu marciau egnïol o fewn fy ngwaith celf. Mae fy ymarfer yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau a rwy’n hoffi creu darnau diddorol ac unigryw sydd heb eu gweld o’r blaen; lle gall y sawl sy’n edrych ar y darn greu eu stori eu hunain.”

Rhoddir y Fedal Gelf er cof am Elain Heledd a fu’n ysbrydoli disgyblion Llanegryn a Llanbrynmair a rhoddir tlws yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc gan gwmni Arwerthwyr Celfyddyd Gain Rogers Jones.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.