Newyddion S4C

Llywydd y Dydd Prifwyl Maldwyn yn dyheu am addysg uwchradd 'cyflawn Gymraeg' yn ei fro

27/05/2024

Llywydd y Dydd Prifwyl Maldwyn yn dyheu am addysg uwchradd 'cyflawn Gymraeg' yn ei fro

Mae Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd addysg uwchradd "cyflawn Gymraeg" yn ei fro yn y dyfodol. 

Cafodd y canwr a'r actor Steffan Harri ei fagu ar fferm ger Dolanog ym Maldwyn.

“Ma’r ysgolion cynradd yma yn Sir Drefaldwyn yn mynd o nerth i nerth a’r gobaith sydd gen i ydi bod genna ni addysg uwchradd cyflawn Cymraeg yn y dyfodol agos" meddai wrth Newyddion S4C

Yn 2021 pleidleisiodd Cabinet Cyngor Sir Powys o blaid newid statws iaith Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth i un uniaith Gymraeg, yr unig ysgol yn y sir sydd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Ysgolion uwchradd dwy ffrwd, Cymraeg a Saesneg sydd yng nghyffiniau'r Eisteddfod ym Meifod.  

Mae Steffan yn actor proffesiynol sydd wedi bod yn rhan o bedair sioe yn y West End yn Llundain - Les Misérables, Girl From The North Country, Spamalot a Children of Eden. Aeth ymlaen i chwarae rhan Shrek, yr actor ifancaf i chware'r rhan erioed. 

Ond gyda Chwmni Theatr Maldwyn y cafodd ei flas cyntaf ar sioeau cerdd.   

"O’n i wastad yn eiddigeddus, o’n i’n mynd i ymarferion Theatr yr Urdd ac yn cwrdd â ffrindiau o ysgolion Syr Hugh Owen, Glan Clwyd, Plas Mawr, Glantaf, ag oeddan nhw yn profi i fi mai nid jest iaith y dosbarth ydi’r iaith Gymraeg, mae’r iaith yn fyw." 

'Gobaith'

Ar ôl treulio deng mlynedd yn Llundain, mae Steffan bellach yn rhedeg y fferm deuluol - fferm biff a defaid, 600 acer. 

Mae'n byw ym Mhlas Coch gyda Rosie ei wraig ac Arthur eu mab ifanc, hanner milltir o faes yr Eisteddfod eleni. 

Ac mae'n gobeithio y bydd darpariaeth Gymraeg gyflawn ar gael pan fydd Arthur yn ei arddegau.  

"Fyswn i yn obeithiol pan fydd Arthur yn cyrraedd oedran uwchradd y bydd yna ysgol Gymraeg yma idda fo.

“Y gobaith ydi cael ysgol uwchradd Gymraeg yma ond hefyd mae’r iaith Gymraeg yn bwysig bo’ chi ddim yn anghofio amdanom ni yng nghefn gwlad, bod yr holl gyffro yna i bawb, o’r ddinas i gefn gwlad hefyd,” meddai. 

Yn ddiweddar, mae Steffan wedi ffilmio rhan mewn drama deledu fydd yn ymddangos ar Disney+ yn 2025. 

Dywedodd  ei bod yn "fraint aruthrol" bod yn Llywydd y Dydd yn ei fro, ac yntau wedi cystadlu a dod yn fuddugol droeon yn eisteddfodau'r Urdd, yn eu plith yr Unawd Sioe Gerdd dan 18 oed yn Nghaerdydd yn 2009. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.