Newyddion S4C

Eisteddfod yr Urdd: Beth sy’n newydd ar y maes eleni?

27/05/2024
Eisteddfod yr Urdd

Mae Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â Maldwyn am y tro cyntaf ers 1988 ac mae’r croeso a’r cyffro i’w deimlo ar hyd a lled y rhanbarth.

Yn ôl Bedwyr Fychan, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith “mae’r bwrlwm a’r brwdfrydedd wedi bod yn magu momentwm dros y misoedd diwethaf”.

Mae'r diwrnod cyntaf o gystadlu wedi dechrau yn gynnar fore Llun, gyda'r tri phafiliwn - coch gwyn a gwyrdd yn llawn ar gyfer amrywiol gystadlaethau, wrth i ddisgyblion cynradd o bob cwr o Gymru a thu hwnt  gystadlu.

Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a’r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg fydd y brif seremoni brynhawn Llun, a'r canwr ac actor Steffan Harri yw llywydd y dydd. 

Yn fab fferm o Ddolanog ger maes yr Eisteddfod, mae Steffan wedi perfformio mewn nifer o sioeau cerdd yn Llundain yn cynnwys Les Miserables a Shrek The Musical. Daeth i amlygrwydd drwy sioeau cerdd Cwmni Theatr Maldwyn. 

Cafodd Prifwyl yr Urdd ei chynnal ym Maldwyn ddiwethaf yn 1988 gan ymweld â'r Drenewydd bryd hynny. 

Mae'r maes eleni ym Meifod yn gyfarwydd i eisteddfotwyr gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei chynnal ar gaeau Mathrafal ddwywaith.      

Ond fel pob Eisteddfod mae yna newidiadau eto eleni, felly dyma rai o’r pethau newydd i gadw golwg amdanyn nhw ar y maes...

Gwaith buddugol y prif seremonïau ar gael yn syth

Am y tro cyntaf bydd gwaith buddugol y prif seremonïau yn cael eu cyhoeddi ar ffurf pamffledi fydd ar gael yn syth wedi’r defodau dyddiol ddod i ben.

Os bydd teilyngdod, bydd gwaith buddugol y Fedal Ddrama, y Gadair a’r Goron yn cael eu cyhoeddi ar ffurf pamffledi fydd ar gael ar y maes.

Eleni hefyd bydd pob un o’r prif seremonïau yn cael eu cynnal ar lwyfan y Pafiliwn Gwyn, yn hytrach na Llwyfan y Cyfrwy fel y digwyddodd y llynedd.

Mae un elfen ychydig yn ddadleuol o’r seremonïau'r llynedd yn aros yr un fath - mi fydd yr Awenau yn rhan o’r prif seremonïau unwaith eto eleni.

Image
Llwyfan Neb Fel Ti

Llwyfan Sa’ Neb Fel Ti

Yn ogystal â’r tri Phafiliwn, ble mae plant a phobl ifanc talentog Cymru a thu hwnt i’w gweld yn cystadlu, mae’r Maes yn cynnig llwyfan newydd eleni. 

Wedi’i lansio mewn partneriaeth â band Eden, ac yn tynnu ar deitl un o’u caneuon, mae llwyfan ‘Sa Neb Fel Ti’ yn lle i unigolion berfformio heb orfod cystadlu.

Y nod meddai'r trefnwyr yw i bobl ifanc gael cyfle “i ddathlu nhw eu hunain a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw”.

Yn ogystal bydd gweithdai a sesiynau ble bydd cyfle i fynychwyr wrando ar drafodaethau am hunan hyder a dysgu am fod yn "gyfforddus yn dy groen dy hun" drwy’r celfyddydau.

Eisteddfod fwy hygyrch

Bydd maes Eisteddfod yr Urdd yn fwy hygyrch i gystadleuwyr ac ymwelwyr eleni, meddai’r trefnwyr. 

Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw wedi ymgynghori gydag arbenigwyr ym maes anabledd a hygyrchedd i’r celfyddydau, ac mae cyfres o ddatblygiadau wedi’u gwneud er mwyn sicrhau bod y maes a gweithgareddau’r ŵyl yn hygyrch a chynhwysol.

Mae’r rhain yn cynnwys toiled ‘high dependency’ hygyrch ar gael ar y Maes a gwasanaeth arwyddo ar alw ym mhob pafiliwn, drwy gais yn y Ganolfan Groeso. 

Mi fydd yr Eisteddfod hefyd yn darparu adnoddau ar gyfer ymwelwyr dall a byddar, ac mae staff adran Eisteddfod yr Urdd wedi derbyn hyfforddiant mynediad a chynhwysiant anabledd

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd: “Fel rhan o’n partneriaeth gyda Disability Art Cymru a Taking Flight, rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd a mynediad at ein digwyddiadau celfyddydol, sy’n cynnwys maes Eisteddfod yr Urdd.

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac mae gwyliau celfyddydol yn haeddu cael eu mwynhau gan bawb. 

“Yn ogystal â datblygu ac addasu maes yr Eisteddfod, rydym hefyd am sicrhau cyfleoedd i artistiaid anabl a niwroamrywiol i berfformio ac arwain yn ein darpariaeth gelfyddydol.” 

Mwy o gystadleuwyr nag erioed

Mae dros 100,454 wedi cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl eleni, sy’n fwy nag erioed o’r blaen.

Dyma’r tro cyntaf yn hanes y mudiad i’r ffigwr gyrraedd dros gan mil ac yn ôl y Cyfarwyddwr Llio Maddocks, mae’n arwydd o sut mae’r ŵyl wedi datblygu a thyfu dros y blynyddoedd.

Meddai Llio Maddocks: “Mae’n wych gweld bod cymaint o frwdfrydedd wedi bod ar y cystadlu eleni. 

“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n denu cynifer o gystadleuwyr i berfformio yn ogystal â chynnig profiadau celfyddydol ar y maes i’n holl ymwelwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.