Israel yn taro gwersyll ffoaduriaid yn ardal Rafah
Mae dwsinau o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu wedi ffrwydrad mewn gwersyll ffoaduriaid yn ardal Rafah ar Lain Gaza, medd y weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.
Mae lluniau fideo oddi yno yn dangos ffrwydrad anferth a thân yn cynnau.
Yn ôl Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF), dau arweinydd Hamas oedd y targed.
Ychwanegodd y llu y byddan nhw yn bwrw golwg ar adroddiadau fod tân wedi ymledu i fannau lle roedd ffoaduriaid yn cael lloches, gan anafu bobl.
Oriau yn gynharach, fe daniodd Hamas wyth roced o Rafah tua chyfeiriad Tel Aviv.
Dyma'r ymosodiad cyntaf o bellter ar y ddinas ers mis Ionawr.
Cafodd yr ymosodiad yn Rafah ei gynnal ddeuddydd wedi i'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol orchymyn Israel i roi'r gorau i'w hymgyrch filwrol yn y ddinas ar unwaith.
Mae cannoedd ar filoedd o bobl yn cael lloches yno ar hyn o bryd.
Mewn datganiad wedi'r ymosodiad yn Rafah nos Sul, dywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel ei bod wedi "cael gwared" â dau o uwch swyddogion Hamas - Yassin Rabia a Khaled Nagar mewn ymosodiad "penodol" o'r awyr yng ngogledd-orllewin Rafah".
Yn ôl yr awdurdodau ar ran Hamas, mae 35 wedi eu lladd a dwsinau wedi eu hanafu yn yr ymosodiad.
Mae'n nhw'n dweud fod menywod a phlant ymhlith y rhai sydd wedi marw.