Newyddion S4C

Dros 300 miliwn o blant y flwyddyn yn wynebu camdriniaeth rywiol ar-lein, medd adroddiad

27/05/2024
Camdrin plant ar-lein (PA)

Mae mwy na 300 miliwn o blant yn flynyddol yn dioddef o gam-drin ac ecsploetio ar-lein ar draws y byd, yn ôl ymchwil.

Mae’r ymchwil gan Brifysgol Caeredin, yr amcangyfrif cyntaf byd eang, yn dangos fod un ymhob wyth, neu 12.5% o blant y byd wedi dioddef siarad, rhannu a datguddiadau anghydsyniol (nonconsensual) o ddelweddau a fideo yn y flwyddyn ddiwethaf, sy’n cyfateb â 302 miliwn o bobl ifanc.

Yn ychwanegol i hyn, yn ôl yr ymchwil, mae 300 miliwn o blant ar draws y byd wedi dioddef deisyfiadau (solicitation) rhywiol, secstio a cheisiadau am weithgareddau rhywiol ar-lein gan oedolion neu bobl ifanc eraill.

Mae’r troseddau yn cynnwys mynnu arian gan ddioddefwyr er mwyn cadw delweddau yn breifat, a cham-drin technoleg deep fake gan ddeallusrwydd artiffisial.

Mae’r ymchwil yn dangos fod yr Unol Daleithiau yn ardal o risg uchel.

Mae menter Childlight y brifysgol, sy’n anelu i ddeall y broblem, yn cynnwys ymchwil sy’n dangos fod un ymhob naw o ddynion wedi cyfaddef troseddu ar-lein yn erbyn plant.

Fe wnaeth 7% o ddynion ym Mhrydain gyfaddef i wneud hynny neu 1.8 miliwn, a 7.5% yn Awstralia.

Fe wnaeth yr ymchwil ddarganfod y byddai nifer o ddynion yn troseddu’n gorfforol rhywiol yn erbyn plant os fyddai’r weithred yn cael ei gadw’n gyfrinachol.

'Graddfa anhygoel'

Dywedodd prif weithredwr Childlight Paul Stanfield: “Mae hyn ar raddfa anhygoel, sydd yn y DU yn cyfateb â llinell o droseddwyr gwrywaidd yn ymestyn yr holl ffordd o Glasgow i Lundain – neu lenwi Stadiwm Wembley ugain o weithiau.

"Mae cam-drin plant mor gyffredin fel bod troseddau yn cael eu riportio i asiantaethau gwarchod neu heddlu bob eiliad.

“Mae hyn yn bandemig iechyd byd eang sydd wedi parhau yn gudd yn rhy hir. Mae’n digwydd ymhob gwlad, mae’n tyfu’n sylweddol ac mae angen ymateb byd eang.

"Mae’n rhaid i ni ymateb ar frys a’i drin fel mater iechyd cyhoeddus sy’n medru ei atal. Nid yw’r plant yn medru aros.’

Dywedodd Debi Fry, sy’n athro amddiffyn plant yn y brifysgol, fod y mater yn effeithio ar blant “ymhob dosbarth, ymhob ysgol, ymhob gwlad".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.