Newyddion S4C

Cannoedd wedi eu claddu o dan dirlithriad ym Mhapua Gini Newydd

26/05/2024
Papua Gini Newydd

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif fod tua 670 o bobl wedi eu claddu o dan dirlithriad enfawr ym Mhapua Gini Newydd.

Dywedodd pennaeth y mudiad yn y wlad Serhan Aktoprak fod effaith y tirlithriad ddydd Gwener yn ardal anghysbell Enga lawer yn fwy na’r hyn a dybiwyd yn wreiddiol.

“Mae amcangyfrif o 150 o dai wedi eu claddu,” meddai.

Mae’r ardaloedd a effeithiwyd yn uwchdiroedd Enga yng ngogledd yr ynys sydd yn ne orllewin y Môr Tawel.

Mae tirwedd anodd a difrod i ffyrdd yn yr ardal yn amharu ar yr ymdrechion i achub y bobl yno gyda mynediad trwy ddefnyddio hofrenyddion yn unig yn bosib.

Nid oes gwybodaeth fanwl am faint o bobl sydd wedi eu heffeithio.

Yn ôl adroddiadau roedd maint y tirlithriad tua maint tri neu bedwar o gaeau pêl-droed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.