Newyddion S4C

Y Ceidwadwyr yn bwriadu ail-gyflwyno Gwasanaeth Cenedlaethol i bobl 18 oed

26/05/2024
Rishi Sunak

Fe fyddai’n rhaid i bobl 18 oed gyflawni math o wasanaeth cenedlaethol pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad ar 4 Gorffennaf, mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi.

Byddai pobl ifanc yn cael dewis rhwng treulio cyfnod o 12 mis o brofiad gwaith llawn amser gyda’r lluoedd arfog, neu ymrwymo i wirfoddoli yn eu cymunedau am un penwythnos bob mis am flwyddyn, yn ôl y Ceidwadwyr.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y byddai’r polisi yn helpu “uno cymdeithas” mewn “byd sydd yn mynd yn fwyfwy ansicr”, gan gynnig elfen o “bwrpas torfol” i bobl ifanc.

Gallai’r elfen o wirfoddoli cymunedol gynnwys helpu gwasanaethau tân, yr heddlu, neu’r gwasanaeth iechyd, yn ogystal ag elusennau neu gefnogi’r henoed, meddai.

Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadau’r polisi yn hallt, gan ddweud nad yw “o ddifrif”, gyda Llafur yn dweud ei fod yn “ymrwymiad arall” na fyddai yn cael ei wireddu.

Mae disgwyl y byddai’r cynllun yn costio £2.5 biliwn y flwyddyn i’w rhedeg, yn ôl y Ceidwadwyr.

Fe allai peilot cyntaf y cynllun fod yn weithredol ac yn barod i dderbyn ceisiadau erbyn Medi 2025.

Dywedodd Rishi Sunak: “Mae gen i gynllun clir i fynd i’r afael â hyn a sicrhau ein dyfodol. Byddaf yn cyflwyno model newydd o wasanaeth cenedlaethol i greu ymdeimlad o bwrpas a rennir ymhlith ein pobl ifanc ac ymdeimlad newydd o falchder yn ein gwlad.

“Bydd y gwasanaeth cenedlaethol gorfodol newydd hwn yn darparu cyfleoedd sy’n newid bywydau ein pobl ifanc, gan gynnig cyfle iddynt ddysgu sgiliau byd go iawn, gwneud pethau newydd a chyfrannu at eu cymuned a’n gwlad.”

'Toriadau niweidiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur: “Nid cynllun yw hwn – mae’n adolygiad a allai gostio biliynau ac sydd ei angen yn unig oherwydd bod y Torïaid wedi cau’r lluoedd arfog allan i’w maint lleiaf ers Napoleon.

“Mae Prydain wedi cael digon ar y Ceidwadwyr, sydd wedi rhedeg allan o syniadau, a heb unrhyw gynlluniau i ddod â 14 mlynedd o anhrefn i ben. Mae’n bryd troi’r dudalen ac ailadeiladu Prydain gyda Llafur.”

Dywedodd llefarydd amddiffyn y Democratiaid Rhyddfrydol, Richard Foord AS: “Pe bai’r Ceidwadwyr o ddifrif am amddiffyn, byddent yn gwrthdroi eu toriadau niweidiol i’n lluoedd arfog proffesiynol o’r radd flaenaf, yn hytrach na’u dinistrio, gyda thoriadau syfrdanol i nifer ein personél gwasanaeth arferol.

“Byddai’n llawer gwell gwario’r arian hyn yn gwrthdroi toriadau’r Ceidwadwyr i nifer y milwyr.”

Wrth drafod os yw'r cynllun yn un wirfoddol Dyweodd Liz Saville-Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: "Os yw’n gonsgripsiwn gorfodol, nid yw’n wirfoddol. Os nad yw’n wirfoddol, bydd sancsiynau am fethu â chydymffurfio gan y Torïaid - a chwalodd yr economi a difetha dyfodol pobl ifanc."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.