Dynes wedi marw yn y ddalfa yng Nghaernarfon
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dynes wedi marw yn y ddalfa yng Nghaernarfon.
Dywedodd y llu eu bod wedi cyfeirio eu hunain at swyddfa annibynnol ymddygiad yr heddlu (IOPC) ar ôl i ddynes yn ei 40au farw ddydd Gwener wrth gael ei chadw yn y ddalfa yng Nghaernarfon.
Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, yn ôl y llu.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison: “Roedd y ddynes wedi bod yn y ddalfa ers prynhawn ddydd Iau ac fe aeth yn sâl a bu farw ychydig cyn 17:30.
"Fel sy’n ofynnol yn yr amgylchiadau yma rydym wedi gwneud atgyfeiriad mandadol i swyddfa annibynnol ymddygiad yr heddlu (IOPC) sydd yn ymchwilio.
“Mae ein meddyliau yn parhau gyda’i theulu sydd yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol, a phawb sydd wedi eu heffeithio.
“Nid ydym yn medru rhoi sylwadau ymhellach tra bod yr ymchwiliad yn cymryd lle.”
Llun: Google Maps