Abi Reader a Paul Williams i arwain NFU Cymru
Mae Abi Reader, sy'n ffermio ger Caerdydd wedi ei hethol yn Llywydd NFU Cymru.
Paul Williams, ffermwr da byw o Nebo, Sir Conwy sydd wedi ei ethol yn ddirprwy lywydd yr undeb amaethyddol.
Cafodd y ddau eu hethol mewn cyfarfod o gyngor NFU Cymru ym Mae Caerdydd fore Mawrth.
Mae Abi Reader yn olynu'r ffermwr ger Caernarfon Aled Jones a fu'n llywydd ers 2022.
Mae Ms Reader yn cadw gwartheg godro a defaid, a hi yw'r drydedd genhedlaeth ar y fferm deulol yn Ngwenfo ar gyrion y brifddinas.
Mae hi'n gweithio mewn partneriaeth gyda'i rhieni a'i hewythr.
Yn gyn enillydd gwobr Ffermwraig y Flwyddyn NFU Cymru, cafodd ei hanrhydeddu â'r teitl MBE gan y ddiweddar Frenhines yn 2019 am ei gwasanaeth i amaeth.
Dechreuodd gyfrannu at waith yr undeb yn 2012.
'Anrhydedd'
Wrth siarad am ei gobeithion yn ystod ei chyfnod yn Llywydd NFU Cymru, dywedodd Abi Reader: "Mae'n anrhydedd cael fy ethol gan gyd amaethwyr.
"Mae'n gyfrifoldeb enfawr wrth arwain ein diwydiant mewn cyfnod o newid sylweddol, ond rwy'n uchelgeisiol wrth ystyried y cyfleoedd ar gyfer amaeth yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.
"Rydw i hefyd yn awyddus i adeiladu ar y gwaith pwysig y mae ein llywydd gwych Aled Jones wedi ei gyflawni yn ogystal â'i ragflaenwyr.
"Mae'n flwyddyn cyflwyno'r system Cynllun Ffermio Cynaladwy. Mae NFU Cymru wedi bod yn flaenllaw wrth i'r cynllun gael ei ddylunio yn y blynyddoedd diwethaf, ac er ei fod wedi ei drawsnewid ers y dyddiau cynnar, rydym yn dal i gredu fod gwaith i'w wneud.
"Rydw i wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws y diwydiant er mwyn cyflwyno'r newidiadau hynny."
Mae'r Dirprwy Lywydd newydd Paul Williams yn ffermio defaid a gwartheg biff yng Nghae Haidd, Nebo, ger Llanrwst, gyda'i wraig Dwynwen a'u tri o blant.
Mae Mr Williams wedi bod yn aelod o NFU ers mwy nag 20 mlynedd, ac yn gyn-Gadeirydd cangen NFU Cymru Clwyd.
Roedd yn un o drefnwyr yr arddangosfa o 5,500 pâr o esgidiau glaw y tu allan i'r Senedd yn 2023 i ddangos gwrthwynebiad y diwydiant amaeth i'r Cynllun Ffermio Cynaladwy ar y pryd.
Wedi iddo gael ei ethol, dywedodd Paul Williams ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar i weithio gydag Abi Reader.
"Mae gwaith i'w wneud gyda materion fel TB, rheolau safon dŵr Llywodraeth Cymru a phryderon am brisiau llaeth, sy'n peri pryder i ffermwyr," meddai.