Manchester United yn ennill Cwpan FA Lloegr
Mae Manchester United wedi ennill Cwpan FA Lloegr ar ôl curo Manchester City 2-1 yn y rownd derfynol yn Wembley.
City oedd yn fuddugol yn erbyn United yn y ffeinal flwyddyn yn ôl, ond roedd y canlyniad yn dra gwahanol y tro hwn.
Fe sgoriodd yr Archentwr Alejandro Garnacho wedi 30 munud, cyn i’r Sais Kobbie Mainoo ddyblu mantais y cochion naw munud yn ddiweddarach.
Fe wnaeth tîm Pep Guardiola fethu sawl cyfle yn ystod yr ail hanner, cyn i’r asgellwr o Wlad Belg, Jeremy Doku, ganfod cefn y rhwyd wedi 87 munud.
Cynyddu gwnaeth y pwysau ar amddiffyn United yn ystod amser ychwanegol, ond fe wnaeth tîm Erik ten Haag lwyddo i ddal gafael ar y fantais hyd at y chwiban olaf.
Dyma’r 13eg tro i United ennill y gwpan.
Llun: Wotchit