Newyddion S4C

Geraint Thomas ar fin sicrhau trydydd safle yn y Giro d’Italia

25/05/2024

Geraint Thomas ar fin sicrhau trydydd safle yn y Giro d’Italia

Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi llwyddo i ddal ei afael ar y trydydd safle yn ras y Giro d’Italia.

Fe ddaeth Thomas yn seithfed ar gymal 20 ddydd Sadwrn, sef yr olaf ond un yn y ras, gan orffen dau funud tu ôl i enillydd y cymal a’r Giro, Tadej Pogačar o Slofenia.

Dyma’r chweched cymal i Pogačar ennill gan olygu ei fod dros 10 munud o flaen Thomas yn y dosbarthiad cyffredinol.

Fe ddaeth Daniel Martinez o Golombia yn ail.

Roedd cymal 20 yn 184 cilomedr o hyd yn y mynyddoedd gyda’r seiclwyr yn croesi mynydd Monte Grappa ddwywaith rhwng Alpago a Bassano del Grappa.

Fe fydd y ras yn dod i ben yn Rhufain ddydd Sul ond mae'n draddodiad i beidio â herio'r ceffylau blaen ar y cymal olaf.

Fe ddaeth Thomas yn ail y llynedd, 14 eiliad yn unig y tu ôl i Primož Roglič, hefyd o Slofenia.

Ond roedd gan Thomas le i lawenhau ar ei ben-blwydd yn 38 oed ddydd Sadwrn gan taw ef fydd y seiclwr hynaf i sefyll ar y podiwm yn hanes y Giro.

Llun: X/Ineos Grenadiers

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.