Aled Siôn Davies yn bencampwr taflu pwysau’r byd am y chweched tro'n olynol
25/05/2024
Mae’r Cymro Aled Siôn Davies wedi ennill pencampwriaeth taflu pwysau’r byd F63 am y chweched tro'n olynol ar ddiwrnod olaf pencampwriaethau Para Athletau’r Byd yn Siapan.
Roedd ei dafliad 15.60 metr bron yn fetr ymhellach na’r cystadleuwr ddaeth yn ail.
Dyma’r degfed tro iddo gyflawni’r gamp.
Dywedodd Davies, a ddathlodd ei ben blwydd yn 33 oed yn ystod y gystadleuaeth: “Mae’n wallgof i feddwl fod gen i 10 teitl y byd a chwech yn olynol. Nid oes neb wedi gwneud hwnna o’r blaen yn y gamp.
“Y prif un eleni yw gemau Para Olympaidd, felly mae hyn yn gosod pethe’n eithaf da i mi.”
Llun: X/AledSiônDavies