Newyddion S4C

Chris Coleman wedi'i benodi'n rheolwr ar glwb yn Cyprus

25/05/2024
Chris Coleman Cymru Fa Wales

Mae cyn rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi ei benodi yn rheolwr ar glwb AEL Limassol yn Cyprus.

Mae Coleman, 52 oed, wedi bod heb swydd ers gadael clwb Atromitos yng Ngwlad Groeg y llynedd.

Wrth gyhoeddi ei benodiad ddydd Sadwrn, dywedodd y clwb eu bod yn penodi hyfforddwr gyda “phrofiad hir a llwyddiannau sylweddol”.

Fe fydd yn ymgymryd â’r rôl ar unwaith, yn ôl y clwb.

Dywedodd llefarydd ar ran AEL Limassol: “Mae penodiad Mr Coleman yn tanlinellu penderfyniad y Bwrdd Cyfarwyddwyr i godi lefel y tîm pêl-droed ac i fynd ar drywydd cyflawni'r amcanion a osodwyd.

“Rydym yn argyhoeddedig y bydd ei brofiad, ei feddwl strategol a’i arweinyddiaeth yn allweddol i gyflawni ein huchelgeisiau.

“Croesawn Mr Chris Coleman i deulu AEL a dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei ddyletswyddau newydd.”

Fe wnaeth Coleman arwain tîm pêl-droed Cymru at rowndiau terfynol pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf ers 58 mlynedd, pan lwyddodd y tîm i hawlio lle yn UEFA Euro 2016, gan gyrraedd y rownd gyn derfynol.

Cyprus yw’r pumed wlad i’r gŵr 53 oed hyfforddi ynddi, wedi iddo hefyd reoli clybiau yn Lloegr, Sbaen, Gwlad Groeg a Tsieina yn y gorffennol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.