Newyddion S4C

Y cerddor Lleuwen Steffan yn ceisio adfywio hen emynau

ITV Cymru 25/05/2024
Lleuwen Steffan

Mae cerddor yn adfywio emynau Cymraeg a oedd wedi mynd yn angof, ar ôl eu darganfod mewn archifdy amgueddfa.

Fe wnaeth Lleuwen Steffan ddarganfod yr emynau yn archif sain Sain Ffagan, gyda nifer ohonynt yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif.

Serch hynny, cred Lleuwen yw bod yr hen emynau yn cyffwrdd â materion cyfoes megis iechyd meddwl ac alcoholiaeth.

"Er eu bod nhw'n eiriau hen iawn, maen nhw o brofiad," meddai Lleuwen. “Felly, mae emosiynau'r un peth, dim ots ym mha ganrif 'da chi ynddi ac maen nhw'n emosiynau cryf, ac roeddwn i'n teimlo bod nhw’n gallu mynegi mwy na'r hyn y gallwn i fynegi trwy fy nghaneuon fy hun.

"Dwi’n gwella o gaethiwed a phroblemau iechyd meddwl a chredaf ein bod i gyd, i ryw raddau, yn gwella o rywbeth. Nes i deimlo fod gan yr emynau hyn oedd llawer i'w gynnig i gymdeithas, sydd â chaethiwed."

Toriadau

Gyda thoriadau wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar i gyllidebau amgueddfeydd ledled Cymru, mae Lleuwen yn poeni na fydd prosiectau fel un hi yn bosibl yn y dyfodol o ganlyniad.

"Mae yna staff oedd yna pan oeddwn i'n ymchwilio sydd ddim yno bellach oherwydd y toriadau," meddai Lleuwen.

"Amgueddfeydd yw lle rydyn ni'n cadw ein treftadaeth a dim ond os ydyn ni'n gwybod ein gwreiddiau y gallwn ni ddatblygu fel cymdeithas. 

“Os ydyn ni'n cael ein torri o'r gwreiddiau, does gennym ni ddim gobaith."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol fod eu cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021, a'i bod "wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben."

Perfformiodd taid Mwynwen Mai Jones rai o'r emynau sydd yn yr archif. 

Image
Mwynwen Mai Jones
Mwynwen Mai Jones

“Mae’n brofiad personol iawn, yn grefyddol a hefyd i’r teulu,” meddai Mwynwen.

"Mae fy merched yma heno - dyma'r eildro iddyn nhw glywed llais fy nhaid. Rwy'n ei weld fel y gorffennol, y dyfodol, a'r presennol i gyd mewn un heno."

Gyda chefnogaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, teithiodd Lleuwen o amgylch capeli Cymru i berfformio’r emynau drwy gydol Chwefror, Ebrill, a dechrau Mai. Mae hi'n bwriadu perfformio'r emynau eto yr haf hwn.

'Gwerthfawrogi'

Mae Beti Wyn James yn barchedig o Gapel y Priordy yng Nghaerfyrddin, un o’r capeli lle bu Lleuwen yn perfformio’r emynau.

"Rydym yn byw mewn gwlad gyda chymaint o emynwyr enwog ac mae eu gwaith wedi bod yn ddylanwadol iawn ar fywydau crefyddol ein cenedl," meddai'r Parch James.

"Ond mae cymaint o emynwyr eraill nad yw eu gwaith wedi cael eu gwerthfawrogi cymaint ag eraill."

Lluniau: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.