Newyddion S4C

Etholiad Cyffredinol: Pa ASau o Gymru sydd yn camu o’r neilltu?

25/05/2024
David Jones / Christina Rees / Hywel Williams

Pa bynnag blaid fydd yn dod i rym wedi’r Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf, fe fydd golwg dra wahanol i’r siambr gyda sawl wyneb cyfarwydd yn camu o’r neilltu.

Mae 120 o Aelodau Seneddol wedi cadarnhau eu bod wedi penderfynu peidio sefyll yn yr etholiad eleni.

Yn eu plith mae’r cyn Prif Weinidog, Theresa May, yr Ysgrifennydd Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau, Michael Gove, y cyn Canghellor Kwasi Kwarteng, a chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, John Redwood.

Hefyd yn ymadael bydd Harriet Harman o’r Blaid Lafur, sydd wedi siarad yn y siambr ar bron i 10,000 o achlysuron, cyn arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas, a chyn gweinidogion blaenllaw eraill o’r Blaid Geidwadol, Matt Hancock, Syr Sajid Javid, Dominic Raab a Nadhim Zahwai.

Wrth i’r nifer o ASau Cymreig gael eu cwtogi o 40 i 32, yn dilyn adolygiad o’r ffiniau dros y blynyddoedd diwethaf, bydd y gynrychiolaeth o Gymru yn newid yn sylweddol yn ogystal.

Chwe aelod o Gymru sydd wedi cyhoeddi y bydden nhw ddim yn ceisio cael eu hail-ethol.

Image
Wayne David AS
Wayne David AS

Wayne David (Llafur, Caerffili)

Mae Wayne David wedi gwasanaethu etholaeth Caerffili ers 2001, ac yn gadael gyda mwyafrif o 6,833 yn yr etholiad diwethaf yn 2019.

Cyhoeddodd ym mis Chwefror 2022 y byddai yn ymddeol cyn yr etholiad nesaf.

Roedd Mr David wedi gwasanaethu fel gweinidog cysgodol i'r Blaid Lafur dan bob arweinydd rhwng 2010 a 2021.

Image
David Jones AS
David Jones AS

David Jones (Ceidwadwyr, Gorllewin Clwyd)

Mae David Jones wedi bod aelod ers 2005, ac fe gyhoeddodd fis Medi'r llynedd na fyddai yn ceisio cael ei ail-hethol.

Ac yntau gyda mwyafrif o 6,747 ers yr etholiad yn 2019, mae'n ymadael wrth i’w etholaeth gael ei rannu rhwng dwy etholaeth newydd, Bangor Aberconwy a Dwyrain Clwyd.

Image
Christina Rees AS
Christina Rees AS

Christina Rees, (Llafur, Castell-nedd)

Mae Christina Rees wedi bod yn Aelod Seneddol yn etholaeth Castell-nedd ers 2015.

Ond wrth i'r sedd gael ei huno fel rhan o sedd newydd Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, cafodd Ms Rees ei hatal rhag gwneud cais am enwebiad y blaid ar gyfer yr etholaeth ar ôl cael ei gwahardd yn dilyn honiadau o fwlio staff.

Cafodd Ms Rees ei hail-derbyn i'r blaid fis Chwefror eleni ar ôl ymddiheuro am ei hymddygiad.

Image
Jamie Wallis AS
Dr Jamie Wallis AS

Dr Jamie Wallis (Ceidwadwyr, Pen-y-bont)

Cafodd Dr Jamie Wallis ei ethol ym Mhen-y-bont yn 2019 gyda mwyafrif o 1,157.

Yn dilyn newidiadau i'r ffiniau, dywedodd Mr Wallis y llynedd na fyddai yn ceisio cael ei ail-ethol, gan geisio cystadlu mewn etholaeth "y tu allan  Gymru".

Image
Hywel Williams AS
Hywel Williams AS

Hywel Williams (Plaid Cymru, Arfon)

Mae Hywel Williams wedi bod yn Aelod Seneddol ers 2001, gan gynrychioli Arfon ers 2010.

Cyhoeddodd Mr Williams yn Nhachwedd 2022 y byddai'n camu o'r neilltu fel Aelod Seneddol cyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Image
Beth Winter AS
Beth Winter AS

Beth Winter (Llafur, Cwm Cynon)

Gyda’i hetholaeth yn uno i fod yn rhan o’r etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf, fe wnaeth Beth Winter golli allan ym mhleidlais y Blaid Lafur, gyda Gerald Jones yn sicrhau’r enwebiad.

Yn dilyn y canlyniad, fe wnaeth Ms Winter alw am adolygiad annibynnol mewn i’r broses dewis ‘annheg’.

Lluniau: Senedd y DU (CC by 3.0)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.