Rhybudd melyn am daranau a glaw trwm ar gyfer rhannau o Gymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am daranau a glaw trwm ar gyfer rhannau o Gymru yn hwyrach ddydd Sul.
Bydd y rhybudd tywydd yn effeithio ar ganolbarth, a gogledd ddwyrain Cymru ac mewn grym rhwng 12:00 a 20.00.
Gall cawodydd trwm araf a tharanau arwain at rywfaint o lifogydd ac aflonyddwch mewn mannau, medden nhw.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai cawodydd taranllyd sy’n symud yn araf ddatblygu yn ystod prynhawn ddydd Sul a gallai rhai lleoliadau weld 20-30mm o law mewn llai nag awr.
Mae mellt a chenllysg cyson hefyd yn bosib mewn mannau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd; “Gall mellt a chenllysg cyson, yn enwedig yn nwyrain yr ardal, achosi gwrthdrawiadau.
"Mae siawns y gall rai tai a busnesau ddioddef llifogydd cyflym gyda difrod i rai adeiladau o ddŵr sy’n llifo a gan fellt.”
Mae’r rhybudd tywydd yn berthnasol i’r siroedd canlynol:
Dinbych
Fflint
Powys
Wrecsam