Charlotte Church yn tynnu nôl o ŵyl Y Gelli Gandryll
Mae’r gantores Charlotte Church wedi tynnu nôl o ymddangos yng ngŵyl Y Gelli Gandryll.
Mae Ms Church yn un o sawl enw sydd wedi tynnu nôl yn dilyn dadleuon am gysylltiadau’r noddwr Baillie Gifford, y cwmni buddsoddi, gydag Israel a thanwydd ffosil.
Mae’r ŵyl bellach wedi atal y cytundeb nawdd gan ddweud fod y penderfyniad wedi ei wneud “yn dilyn honiadau gan ymgyrchwyr a phwysau dwys gan gyfranwyr i dynnu nôl”.
Mae Church ymhlith nifer o selebs sydd wedi ymuno â galwadau am gadoediad rhwng Israel a Hamas ym Mhalestina.
Roedd y comedïwr Nish Kumar a’r aelod seneddol Llafur Dawn Butler hefyd wedi tynnu nôl.
Daw yn dilyn i’r grŵp ymgyrchu Fossil Free Books alw ar y noddwyr Baillie Gifford i “dynnu nôl o fuddsoddi yn y diwydiant ynni ffosil” gan ddweud fod gan y cwmni £2.5-3 biliwn wedi buddsoddi yn y diwydiant a thua £10 biliwn gyda chwmnïau gyda chysylltiadau uniongyrchol neu anuniongyrchol gyda diwydiannau amddiffyn, technoleg a diogelwch seibir yn Israel.
Dywedodd llefarydd ar ran Baillie Gifford fod yr awgrym eu bod yn fuddsoddwr yn nhiriogaethau goresgynedig Palestina yn “hynod gamarweiniol”.