Newyddion S4C

Pryderon fod cannoedd wedi marw mewn tirlithriad ym Mhapua Gini Newydd

25/05/2024
Tirlithriad Papua Gini Newydd

Mae’r gwasanaethau brys ym Mhapua Gini Newydd yn ofni fod cannoedd o bobl wedi marw yn dilyn tirlithriad enfawr yn rhanbarth Enga yn y wlad.

Mae timoedd achub wedi teithio i’r ardal anghysbell, yn ôl asiantaeth ddyngarol Care Australia.

Mae tirwedd anodd a difrod i ffyrdd yn yr ardal yn amharu ar yr ymdrechion i achub y bobl yno gyda mynediad trwy ddefnyddio hofrenyddion yn unig yn bosib.

Fe wnaeth y tirlithriad orchuddio cannoedd o dai yn Enga sydd yng ngogledd yr ynys ac nid oes gwybodaeth am faint o bobl sydd wedi eu heffeithio.

Dywedodd Care Australia: “Er nad yw’r ardal yn ddwys o ran poblogaeth ein pryder yw bod nifer y marwolaethau yn uchel serch hynny."

Yn ôl adroddiadau roedd maint y tirlithriad tua maint tri neu bedwar o gaeau pêl-droed.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.