Newyddion S4C

Michael Gove yn cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol

24/05/2024
CC

Mae'r Aelod Seneddol Michael Gove wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol.

Mewn llythyr at gadeirydd y Blaid Geidwadol, Stuart Black, dywedodd Mr Gove, sydd yn aelod o gabinet Rishi Sunak bod ei flynyddoedd o wasanaethau fel Aelod Seneddol wedi bod yn "fraint” iddo.

"Fel plentyn yn Aberdeen ni allwn fyth fod wedi dychmygu y byddwn yn cael y cyfle i eistedd yn Nhŷ’r Cyffredin, heb sôn am fod yn aelod o'r cabinet," meddai.

"Roedd pedwar prif weinidog wedi gofyn i mi wasanaethu’r wlad yn eu llywodraethau ac mae wedi bod yn anrhydedd fy mywyd.

"Drwy gydol fy amser mewn gwleidyddiaeth, er fy mod yn ddi-os wedi gwneud camgymeriadau, rwyf bob amser wedi ceisio bod yn llais i’r rhai sydd wedi cael eu hanwybyddu.”

Cafodd ei ethol fel AS dros Surrey Heath yn 2005.

Roedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd cyn y bleidlais yn 2016.

Ni fydd yn sefyll ar gyfer yr etholiad sydd yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.